Mussoorie

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa banoramig ar Mussoorie.
Hen dai ym Mussoorie.

Tref a brynfa yn ngogledd-orllewin India yw Mussoorie. Fe'i lleolir yn nhroedfryniau'r Himalaya yn nhalaith Uttarakhand, tua 200 km i'r gogledd o Delhi Newydd, prifddinas India.

Fel Dehradun gerllaw, tyfodd Mussoorie fel brynfa (hill station) yng nghyfnod y Raj Prydeinig fel lle i osgoi gwres y gwastatiroedd yn yr haf. Mae'n nodweddiadol am ei hen dai o'r cyfnod gwladychol ac yn ganolfan gwyliau poblogaidd gan Indiaid a thramorwyr.

Flag of India.svg Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.