Murlun Siartwyr Casnewydd

Oddi ar Wicipedia
Murlun Siartwyr Casnewydd
Enghraifft o'r canlynolgwaith celf wedi'i ddinistrio, murlun Edit this on Wikidata
CrëwrKenneth Budd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1978 Edit this on Wikidata
Genrecelf gyhoeddus Edit this on Wikidata
LleoliadCasnewydd Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Murlun mosäig oedd Murlun Siartwyr Casnewydd. Cafodd ei godi yn y 1970au ger Sgwâr John Frost yng nghanol Casnewydd er mwyn nodi Terfysg Casnewydd ym 1839.

Cafodd y murlun ei chwalu ar 3 Hydref 2013, er gwaethaf protest o blaid ei gadw. Dywedodd Cyngor Dinas Casnewydd roedd angen dymchwel y murlun er mwyn codi canolfan siopa newydd, a'i bod hi'n rhy ddrud i'w symud.[1][2] Cafodd Cadw ei feirniadu am wrthod cais i wneud y murlun yn adeilad rhestredig.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Dymchwel murlun Casnewydd. BBC (4 Hydref 2013). Adalwyd ar 30 Hydref 2013.
  2.  Murlun Casnewydd – addo mwy o brotestiadau. Golwg360 (5 Hydref 2013). Adalwyd ar 30 Hydref 2013.
  3.  Murlun Siartwyr Casnewydd – “diffygion CADW”. Golwg360 (29 Hydref 2013). Adalwyd ar 30 Hydref 2013.