Murasaki Shikibu

Oddi ar Wicipedia
Murasaki Shikibu
Ganwyd藤原 香子 Edit this on Wikidata
970s Edit this on Wikidata
Heian-kyō Edit this on Wikidata
Bu farwHeian-kyō Edit this on Wikidata
Galwedigaethboneddiges breswyl, nofelydd, bardd, ysgrifennwr, dyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Fujiwara no Shōshi Edit this on Wikidata
Adnabyddus amChwedl Genji, The Diary of Lady Murasaki, Poetic Memoirs Edit this on Wikidata
TadFujiwara no Tametoki Edit this on Wikidata
MamFujiwara no Tamenobu's daughter Edit this on Wikidata
PriodFujiwara no Nobutaka Edit this on Wikidata
PlantDaini no Sanmi Edit this on Wikidata

Murasaki yw llysenw (murasaki "blodeuyn eirin") llenores o Siapan a flodeuai ar ddechrau'r cyfnod Heian (c.973-c.1014). Fe'i hadnabyddir hefyd fel Yr Arglwyddes Murasaki. Roedd hi'n gyfoeswr i'r llenores Sei Shōnagon, awdures Makura no Sōshi (Llyfr Erchwyn y Gwely).

Ei brif waith llenyddol yw'r nofel hir Genji no Monogatari (Hanes Genji), sy'n disgrifio hynt a helynt arglwydd ifanc yn y llys ymherodrol yn y brifddinas Heian Kyo a thu hwnt. Fe'i hystyrir yn un o gampweithiau llenyddiaeth Siapaneg. Mae Genji no Monogatari yn nofel estynedig hir iawn, gyda 54 pennawd sy'n rhedeg i o gwmpas 4,500 tudalen printiedig yn yr argraffiad safonol diweddar. Arddull realistig sydd i'r nofel.

Ysgrifennodd Murasaki ddyddiadur yn ogystal, Murasaki no Shikibu Nikki.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Annie S. Omori a Kochi Doi (cyf.), Diaries of Court Ladies of Old Japan (Tokyo, 1935).
  • Ivan Morris, The World of the Shining Prince[:] Court Life in Ancient Japan (Llundain, 1964), tt. 262-98.
  • Arthur Waley (cyf.), The Tale of Genji by Lady Murasaki (Llundain, 1925-34), mewn 6 cyfrol.