Wal yr Anifeiliaid

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Mur yr Anifeiliaid)
Wal yr Anifieiliaid
Mathmur, cyfres o gerfluniau Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 19 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliadcanol dinas Caerdydd, Castell, Caerdydd Edit this on Wikidata
SirCaerdydd, Castell, Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr9 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4811°N 3.18302°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Adeilad rhestredig Gradd I yng Nghaerdydd yw Wal yr Anifeiliad. Wal ydyw â phymtheg ceflun o anifeiliad a saif ar Stryd y Castell, rhwng canol y ddinas a Parc Bute. Safai yn wreiddiol o flaen Castell Caerdydd, ond fe'i symudwyd pan oedd rhaid lledaenu'r ffordd, ac ar yr adeg yma ychwanegwyd mwy o gerfluniau.

Hanes[golygu | golygu cod]

Safle gwreiddiol y mur, o flaen Castell Caerdydd

Cafodd William Burges, y pensaer a fu'n atgyweirio'r castell ar gyfer Ardalydd Bute, y syniad gyfer y wal ym 1866,[1] ar ôl gweld darluniadau canoloesol gan Villard de Honnecourt.[2] Mae'r fath fanylion chwareus yn nodweddiadol iawn o waith Burges. Bu farw Burges ym 1881 cyn i'w syniad gael ei wireddu, ac o ganlyniad pan y trodd sylw Arglwydd Bute at adeiladu wal derfyn ddeheuol y castell ym 1883[3] y pensaer a fu'n gyfrifol oedd olynydd Burges, William Frame.[1] Cerfiwyd y chwe anifail cyntaf allan o garreg lleol, yn bennaf gan Thomas Nicholls a'i fab; gellir gweld y modelau plastr ar eu cyfer yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Fe'u gosodwyd yn eu lle ym mis Medi 1888 yn barod ar gyfer ymweliad gan Ardalydd Bute; nid oedd ef yn ystyried y llewod yn ddigon ffyrnig a bu'n rhaid eu hael-gerfio. Gosodwyd gweddill y cerfluniau yn eu lle ym 1890.[3]

Symudwyd y wal i'w safle bresennol a'i hymhelaethu tua 1930.[2] Ychwanegwyd chwe cherflun newydd a'u cerfiwyd gan Alexander Carrick o Gaeredin.[2] Gellir gwahaniaethu rhwng y cerfluniau Fictoraidd a'r rheiny o'r 20g yn hawdd am nad oes gan y rhai diweddarach llygaid gwydr.[4] Yn y 1970au roedd cynllunwyr y ddinas yn ystyried dymchwel y wal er mwyn lledaenu'r ffordd ymhellach, ond bu banllef o brotest gan y cyhoedd ac fe'i chadwyd.[5] Atgyweiriwyd y wal yn 2010 fel rhan o brosiect cyffredinol i adfer Parc Bute.[6]

Cerfluniau[golygu | golygu cod]

Thomas Nicholls, ei fab ac eraill, 1887–1890[golygu | golygu cod]

Alexander Carrick, tua 1930[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Crook, J. Mordaunt (2013). William Burges and the High Victorian Dream. Llundain: Frances Lincoln. t. 262
  2. 2.0 2.1 2.2 Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. t. 200
  3. 3.0 3.1 Hilling, John, gol. (1975). Plans & Prospects: Architecture in Wales 1780–1914. Caerdydd: Cyngor Celfyddydau Cymru. t. 20
  4. (Saesneg) Banerjee, Jacqueline (26 Tachwedd 2011). The Animal Wall, Cardiff Castle. The Victorian Web. Adalwyd ar 18 Rhagfyr 2013.
  5. (Saesneg) James, David (24 Mehefin 2009). Do you nose how castle sculpture used to look?. WalesOnline. Adalwyd ar 18 Rhagfyr 2013.
  6.  Project Adfywio Parc Bute. Cyngor Caerdydd (11 Ionawr 2012). Adalwyd ar 18 Rhagfyr 2013.
  7. (Saesneg) Williams, Sally (9 Hydref 2010). Animal wall’s anteater gets a new nose. WalesOnline. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2013.