Mulfran Werdd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mulfran Werdd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Pelecaniformes
Teulu: Phalacrocoracidae
Genws: Phalacrocorax
Rhywogaeth: P. aristotelis
Enw deuenwol
Phalacrocorax aristotelis
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Fulfran Werdd (Phalacrocorax aristotelis), yn aelod o deulu'r Phalacrocoracidae, y mulfrain. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop, de-orllewin Asia a Gogledd Affrica.

Mae'r Fulfran Werdd yn aderyn mawr du, 68-78 cm o hyd a 95-110 cm ar draws yr adenydd. Gall fod yn anodd gweld y gwahaniaeth rhwng y rhywogaeth yma a'r Fulfran, ond mae ychydig yn llai na'r Fulfran, a'r pig yn llai ac yn deneuach, ac mae siâp y pen yn wahanol, yn dangos mwy o "dalcen" na'r Fulfran. Yn y tymor nythu mae plu hirach ar y pen, yn wahanol i'r Fulfran, ac mae gwawr werdd ar y plu.

Pysgod yw'r prif fwyd, ac mae'n pysgota yn y môr yn unig fel rheol, yn wahanol i'r Fulfran sydd hefyd yn pysgota ar afonydd a llynoedd. Mae'n dal y pysgod trwy nofio o dan y dŵr, a gall blymio hyd at ddyfner o 45 medr o leiaf.

Maent yn nythu ar glogwyni ger glan y môr fel rheol, ac yn adeiladu nyth o wymon a phriciau. Gall ddechrau nythu ym mis Chwefror.

Mae nifer o is-rywogaethau:

  • Phalacrocorax aristotelis aristotelis - gogledd-orllewin Ewrop
  • Phalacrocorax aristotelis desmarestii - de Ewrop a de-orllewin Asia
  • Phalacrocorax aristotelis riggenbachi - gogledd-orllewin Affrica

Mae'n aderyn cyffredin o gwmpas y glannau yng Nghymru.