Mudiad Rhyngwladol y Groes Goch a'r Cilgant Coch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Groes Goch a'r Cilgant Coch; dau symbol y mudiad.

Mudiad dyngarol gyda'r amcan o warchod bywyd dynol a lleihau dioddefaint yw Mudiad Rhyngwladol y Groes Goch a'r Cilgant Coch (Ffrangeg: Mouvement international de la Croix-Rouge et du Croissant-Rouge, Saesneg: International Red Cross and Red Crescent Movement). Mae'r mudiad yn cynnwys nifer o sefydliadau, sydd yn gyfreithiol ar wahan ond yn cydweithredu a'i gilydd. Trwy'r byd, mae gan y mudiad tua 97 miliwn o wirfoddolwyr.

Sylfaenwyr y mudiad gan ŵr busnes o'r Swistir, Henry Dunant. Ymis Mehefin 1859, teithiodd i'r Eidal a bu'n dyst i Frwydr Solferino. Lladdwyd neu glwyfwyd tua 40,000 o filwyr yn y frwydr, a gwelodd Dunant mai ychydig iawn o ofal oedd ar gael i'r clwyfedigion. Ar 9 Chwefror 1863, sefydlodd bwyllgor yn ninas Genefa, a ddatblygodd i fod yn fudiad rhyngwladol.

Mabwysiadwyd y groes goch ar gefndir gwyn fel symbol; sef baner y Swistir gyda'r lliwiau wedi eu gwrthdroi. Yn y 1870au, dechreuwyd defnyddio y cilgant coch fel symbol mewn gwledydd Islamig.

Rod of asclepius.png Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato