Mtskheta

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Delwedd:Sweticxoveli.jpg
Svetitskhoveli, Mtskheta

Tref yn Georgia yw Mtskheta. Gorwedd ym mynyddoedd y Cawcasws ar lan Afon Mtkvari (afon Kura) wrth ei chymer ag afon Aragvi. Mae ganddi boblogaeth o fymryn dros 7,000.

Mtskheta yw un o'r trefi mwyaf hynafol yn Georgia. Oherwydd ei diddoredeb hanesyddol a welir yn yr adeiladau canoloesol yn y dref a'r cyffiniau. cyhoeddwyd Mtskheta yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1994.

Cymer afonydd Aragvi a Kura (Mtkvari), Mtskheta, Georgia.

Mae'r adeiladau cynnar yn cynnwys Eglwys Gadeiriol Svetitskhoveli (11eg ganrif, gweler y llun) a Mynachlog Jvari (6ed ganrif). Ceir arysgrifiadau cynnar yn y ddau le sydd o gymorth mawr i arbenigwyr sy'n astudio datblygiad yr wyddor Georgieg.

Ar gyrion Mtskheta ceir adfeilion caer Armaztsikhe (3edd ganrif CC), acropolis Armaztsikhe, , ac eglwysi a safleoedd archaeolegol eraill.

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill