Mousehole
Oddi ar Wicipedia
Pentref a phorthladd pysgota yng Nghernyw yw Mousehole (Cernyweg: Porthynys). Cyfeiria'r enw Cernyweg at ynys fechan St Clement's, ger yr harbwr. Lleolir y pentref ar ben de-ddwyreiniol Cernyw, ger Newlyn.
Roedd Dolly Pentreath (bu farw yn 1777) yn byw ym mhlwyf Paul, sy'n cynnwys y pentref. Dywedir yn aml mai hi oedd y siaradwr Cernyweg uniaith olaf.
Heddiw mae'r pentref yn wynebu cyfnod o newid oherwydd y cynnydd mewn "tai haf" yno. Un enghraifft o hyn yw hanes hen westy hanesyddol y Lobster Pot ar yr harbwr. Yn 1938 treuliodd y bardd Cymreig Dylan Thomas a'i wraig newydd Caitlin MacNamara eu mis mêl yno ar ôl priodi yn Penzance. Yn ddiweddar trowyd y Lobster Pot yn fflatiau moethus sydd y tu hwnt i gyrraedd y mwyafrif o bobl leol.
Dolenni allanol [golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
- (Saesneg) Archifau Mousehole ar wefan y Cornwall Records Office.