Moulins
Oddi ar Wicipedia
Moulins yw prifddinas département Allier yn rhanbarth Auvergne yng nghanolbarth Ffrainc. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 21,892. Saif Moulins ar afon Allier.
Cyrhaeddodd y ddinas ei huchafbwynt yn y 15fed ganrif, pan oedd yn brifddinas y Dugiaid Bourbon. Yn yr Eglwys Gadeiriol ceir y triptych enwog gan yr arlunydd a elwir y Maître de Moulins.