Moulin Rouge! (ffilm 2001)
Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Baz Luhrmann |
| Cynhyrchydd | Baz Luhrmann Fred Baron Martin Brown |
| Ysgrifennwr | Baz Luhrmann Craig Pearce |
| Serennu | Ewan McGregor Nicole Kidman Jim Broadbent Richard Roxburgh John Leguizamo Jacek Koman Caroline O'Connor |
| Cwmni Cynhyrchu | 20th Century Fox |
| Dyddiad rhyddhau | 1 Mehefin, 2001 |
| Amser rhedeg | 128 munud |
| Gwlad | Deyrnas Unedig Awstralia Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
Ffilm gerddorol rhamantaidd a gyfarwyddwyd, cyhyrchwyd ac a ysgrifennwyd ar y cyd gyda Baz Luhrmann yn 2001 ydy Moulin Rouge!. Gan ddilyn egwyddorion The Red Curtain Trilogy, seilir y ffilm ar chwedl Orpheus ac ar opera Giuseppe Verdi, La Traviata. Adrodda'r ffilm hanes bardd/ysgrifennwr Seisnig o'r enw Christian, sy'n cwympo mewn cariad gyda'r actores gabaret Satine sydd yn ddifrifol wael. Defnyddia'r ffilm leoliad cerddorol yr Ardal Montmartre ym Mharis, Ffrainc. Enwebwyd y ffilm am wyth o Wobrau'r Academi, yn cynnwys y Ffilm Orau, yr Actores Orau i Nicole Kidman, ac ennilodd dwy Oscar: un am gyfarwyddo creadigol ac un am y gwisgoedd. Dyma oedd y sioe gerdd gyntaf i gael ei henwebu mewn 22 o flynyddoedd. Ffiliwyd y ffilm yn Stiwdios Fox yn Sydney, Awstralia.