Moses Kellow

Oddi ar Wicipedia

Roedd Moses Kellow (1862 - 1943) yn rheolwr Chwarel Croesor, oedd yn gyfrifol am nifer o ddatblygiadau pwysig yn y diwydiant llechi yng Nghymru.

Ganed Kellow yng Nghernyw, ond symudodd y teulu i Gymru pan oedd yn dair oed. Daeth yn rheolwr Chwarel Croesor, ac yn fuan daeth yn adnabyddus am ei flaengarwch. Ef oedd y cyntaf i ddefnyddio trydan i weithio peiriannau mewn chwarel yn 1901; cynhyrchid y trydan trwy rym dŵr o gronfa Llyn Cwm y Foel. Roedd y trydan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gyrru peiriannau'r chwarel yn ogystal ag ar gyfer goleuo.

Roedd Kellow hefyd yn gyfrifol am ddyfeisio'r "Kellow Drill", oedd yn defnyddio grym dŵr i dyllu'r graig ar gyfer ffrwydro. Adeiladodd drac tram i ddod a'r llechi i lawr o'r chwarel.