Morwennol y Gogledd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Morwennol y Gogledd
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Sternidae
Genws: Sterna
Rhywogaeth: S. paradisaea
Enw deuenwol
Sterna paradisaea
Pontopiddan, 1763
Dosbarthiad Morwennol y Gogledd

Mae Morwennol y Gogledd (Sterna paradisaea) yn aelod o deulu'r Sternidae, y morwenoliaid. Mae'n teithio hyd at 19,000 km (12,000 o filltiroedd) o'r Arctig i'r Antarctig, sy'n golygu ei bod yn gweld mwy o olau dydd nag unrhyw anifail arall.

Mae Morwennol y Gogledd yn nythu o'r Arctig (yn Ewrop, Asia a Gogledd America i lawr cyn belled i'r de a Llydaw yn Ewrop a chyn belled a Massachusetts yn Unol Daleithiau America. Ar ôl nythu mae'n cychwyn tua'r de. Mae enghraifft o un aderyn a fodrwywyd fel cyw ar Ynysoedd Farne yn Northumberland yn Lloegr yn cyrraedd Melbourne, Awstralia yn hydref yr un flwyddyn, taith o 22,000 km (14,000 milltir) mewn tri mis. Amcangyfrifir fod pob Morwennol y Gogledd, ar gyfartaledd, yn teithio yn ystod ei bywyd bellter yr un faint a'r pellter o'r ddaear i'r lleuad.

Mae'n nythu gyda'i gilydd, weithiau filoedd ar y tro ger yr arfordir ac ar ynysoedd. Os daw unrhyw anifail neu fod dynol yn agos at y nyth mae'r adar yn barod iawn i ymosod, a gallant dynnu gwaed. Pysgod yw'r prif fwyd, ac mae'n plymio i'r môr i'w dal.

Gwyn yw'r rhan fwyaf o'r plu, gyda llwyd ar y cefn ac ar ran uchaf yr adenydd. Mae'r pig yn goch tywyll, yn wahanol i'r Forwennol Gyffredin sydd a phig mwy oren. Mae gan Forwennol y Gogledd gynffon hirach a choesau byrrach hefyd. Mae rhwng 33 a 39cm o hyd a 66-77cm ar draws yr adenydd. Yn yr haf mae cap du ar y pen, ond yn y gaeaf mae'r talcen yn troi'n wyn.

Mae'n aderyn gweddol gyffredin ar arfordir Cymru yn yr haf. Ar Ynysoedd y Moelrhoniaid oddi ar arfordir Ynys Môn y mae'r nifer fwyaf yn nythu, tros 1,000 o barau fel rheol.