Morwennol Gyffredin
Oddi ar Wicipedia
| Morwennol Gyffredin | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Charadriiformes |
| Teulu: | Sternidae |
| Genws: | Sterna |
| Rhywogaeth: | S. hirundo |
| Enw deuenwol | |
| Sterna hirundo Linnaeus, 1758 |
|
Mae'r Forwennol Gyffredin (Sterna hirundo) yn aelod o deulu'r Sternidae, y morwenoliaid. Mae'n nythu yn rhannau is-Arctig a thymherol Ewrop, Asia a Gogledd America. Ar ôl nythu mae'n symud tua'r de i aeafu.
Gwyn yw'r rhan fwyaf o'r plu, gyda llwyd ar y cefn ac ar ran uchaf yr adenydd. Mae'r pig yn goch gydag arlliw oren, a darn tywyll ar y blaen, yn wahanol i Forwennol y Gogledd sydd â phig goch dywyll. Mae gan Forwennol y Gogledd gynffon hirach a choesau byrrach hefyd. Mae'r Forwennol Gyffredin rhwng 34 a 37cm o hyd a 70-80cm ar draws yr adenydd. Yn yr haf mae cap du ar y pen, ond yn y gaeaf mae'r talcen yn troi'n wyn.
Mae'n aderyn gweddol gyffredin ar arfordir Cymru yn yr haf.