Morwennol Fechan
| Morwennol Fechan | |
|---|---|
| S. a. sinensis | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Charadriiformes |
| Teulu: | Sternidae |
| Genws: | Sternula |
| Rhywogaeth: | S. albifrons |
| Enw deuenwol | |
| Sternula albifrons Pallas, 1764 |
|
| Cyfystyron | |
|
Sterna albifrons |
|
Adryn sy'n aelod o deulu'r Sternidae, y morwenoliaid yw'r Forwennol Fechan (Sternula albifrons).
Mae'r Forwennol Fechan yn nythu o gwmpas arfordir Ewrop ac Asia. Fel y rhan fwyaf o'r morwenoliaid, maent yn nythu gyda'i gilydd, weithiau gannoedd neu filoedd o adar, ar yr arfordir neu ar ynysoedd. Yn y gaeaf, mae'n symud tua'r de, ac yn cyrraedd cyn belled a De Affrica ac Awstralia.
Mae'n forwennol gymharol fechan, 21-25 cm o hyd a 41-47 cm ar draws yr adenydd. Ceir tri is-rywogaeth, S. a. albifrons yn Ewrop, Gogledd Affrica a gorllewin Asia, S. a. guineae yng ngorllewin a chanolbarth Affrica, a S. a. sinensis yn nwyrain Asia a gogledd a dwyrain Awstralia.
Ar un adeg roedd y Forwennol Fechan yn aderyn gweddol gyffredin o gwmpas arfordir Cymru yn yr haf, ond erbyn hyn dim ond mewn un lle mae'n nythu yng Nghymru, sef Gronant yn y gogledd-ddwyrain.