Morvan (mynyddoedd)
Oddi ar Wicipedia
Mynyddoedd yn regio Bourgogne yn nwyrain Ffrainc yw'r Morvan. Maent o fewn départements Côte-d'Or, Nièvre, Saône-et-Loire a Yonne.
Y copa uchaf yw Haut Folin (901 medr). Ceir llawer o gronfeydd dŵr a choedwigoedd yn yr ardal, ac fe'i dynodwyd yn parc naturel régional yn 1970.
Ymhlith y copaon eraill mae:
- Grand Montarnu 857m
- Mont Préneley 855m
- Bas Folin 832m
- Mont Beuvray 821m
- Bois de la Loge 818|m
- Le Télégraphe, neu Tureau des Grands Bois 800m