Moroni

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa ar draeth Moroni

Prifddinas a dinas fwyaf ynysoedd Comoros yw Moroni (Arabeg موروني Mūrūnī). Mae'n brifddinas y wlad er 1962. Roedd ganddi boblogaeth o tua 60,200 (amcangyfrifiad 2003).[1] Lleolir y ddinas ar arfordir gorllewinol ynys Grande Comore. Gwasanaethir Moroni gan Maes Awyr Rhyngwladol y Tywysog Said Ibrahim (Cyfeirnod IATA: HAH). Ceir hefyd harbwr gyda cysylltiadau llon reholaidd i dir mawr Affrica ac ynysoedd eraill ynysfor Comoros, ynghyd â Madagascar ac ynysoedd eraill yng Nghefnfor India. Mae'r allforion o'r borthladd yn cynnwys fanila, coco, a choffi.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. USA Today Travel Guides.
Flag of the Comoros.svg Eginyn erthygl sydd uchod am y Comoros. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.