Morgan Tsvangirai

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Morgan Tsvangirai, Oslo 2009
Photo: Harry Wad

Prif Weinidog Simbabwe o 11 Chwefror 2009 hyd 11 Medi 2013 oedd Morgan Richard Tsvangirai (ganwyd 10 Mawrth 1952). Ef yw Llywydd y Mudiad am Newid Democrataidd - Tsvangirai ac mae'n ffigur blaenllaw ymysg gwrthwynebwyr Arlywydd Robert Mugabe. Daeth Tsvangirai yn Brif Weinidog Simbabwe ar yr 11 Chwefror, 2009. Ar y 6 Mawrth, tra'n teithio i'w gartref gwledig ym Buhera, bu mewn damwain car a chafodd anafiadau nad oedd yn ddifrifol. Fodd bynnag, lladdwyd ei wraig Susan Tsvangirai yn y gwrthdrawiad â char arall.

Tsvangirai oedd ymgeisydd y Mudiad am Newid Democrataidd yn etholiad arlywyddol dadleuol 2002, pan gollodd i Mugabe. Yn ddiweddarach, ymgeisiodd yn rownd gyntaf etholiad arlywyddol 2008 fel yr ymgeisydd y Mudiad am Newid Democrataidd - Tsvangirai, gan gipio 47.8% o'r bleidlais yn ôl canlyniadau swyddogol, gan ei osod o flaen Mugabe, a dderbyniodd 43.2% o'r bleidlais. Honnodd Tsvangirai iddo ennill mwyafrif gan ddweud y gellid fod wedi newid y canlyniadau yn ystod y mis rhwng yr etholiad a phan gyhoeddwyd y canlyniadau swyddogol. Yn wreiddiol, bwriadodd Tsvangirai sefyll yr ail rownd yn erbyn Mugabe, ond tynnodd ei enw yn ôl ychydig cyn yr etholiad, gan ddadlau na fyddai etholiad yn rhydd nac yn deg yn sgîl y trais a welwyd a'r bygythiadau parhaus gan gefnogwyr y llywodraeth.

Flag of Zimbabwe.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Simbabwe. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.