Morfil Glas

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Morfil glas)
Morfil glas
Morfil glas
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Cetacea
Teulu: Balaenopteridae
Genws: Balaenoptera
Rhywogaeth: B. musculus
Enw deuenwol
Balaenoptera musculus
(Linnaeus, 1758)
Lledaeniad y Morfil Glas

Y mwyaf o'r morfilod, ac anifail mwyaf y byd, yw'r morfil glas neu forfil asgellog glas (Balaenoptera musculus). Credir mai ef yw'r anifail mwyaf a fu erioed. Gall y rhai mwyaf gyrraedd hyd o tua 33 medr a phwysau o tua 170 tunnell. Mae tafod y morfil glas tua'r un fain ag eliffant ac yn pwyso tua 2 dunnell.

Er gwaethaf ei faint, mae'n medru nofio'n gyflym, gan gyrraedd cyflymdra o 40 hyd 50 cilomedr yr awr. Maent yn bwydo ar blancton, yn arbennig cril. Gall un morfil fwyta tua 3500 kg mewn diwrnod. Mae ei diriogaeth yn cynnwys Cefnfor yr Iwerydd, y Cefnfor Tawel, Cefnfor India a Chefnfor y De. Erbyn tua dechrau'r 20g roedd y rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu oherwydd fod cymaint ohonynt wedi eu dal. Erbyn hyn, mae'r rhywogaeth yn cael ei gwarchod, a chredir fod rhwng 5,000 a 12,000 ohonynt bellach.

Eginyn erthygl sydd uchod am un o'r morfiligion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.