Monsters vs. Aliens
Oddi ar Wicipedia
![]() Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Conrad Vernon Rob Letterman |
| Cynhyrchydd | Lisa Stewart Jill Hopper (cyd-gynhyrchydd) Latifa Ouaou (yd-gynhyrchydd) |
| Ysgrifennwr | Maya Forbes Wallace Wolodarsky Rob Letterman Jonathan Aibel Glenn Berger Conrad Vernon |
| Serennu | Reese Witherspoon Seth Rogen Hugh Laurie Will Arnett Rainn Wilson Kiefer Sutherland Stephen Colbert |
| Cwmni Cynhyrchu | DreamWorks Animation Paramount Pictures |
| Dyddiad rhyddhau | 27 Mawrth, 2009 (UDA) 2 Ebrill, 2009 (Awstralia) 3 Ebrill, 2009 (DU) |
| Amser rhedeg | 95 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
| Gwefan swyddogol | |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Mae Monsters vs. Aliens ("Angenfilod un erbyn Aliwns") yn ffilm 3-D sydd wedi'i hanimeiddio ar gyfrifiadur gan DreamWorks Animation a Paramount Pictures. Dyma oedd y ffilm animeiddiedig ar gyfrifiadur gyntaf i gael ei chynhyrchu'n syth i fformat 3-D stereosgopig, yn hytrach na chael ei throsi i 3-D ar ôl iddi gael ei chwblhau. Ychwanegodd hyn $15 miliwn at gost y ffilm.
Bwriadwyd rhyddhau'r ffilm ym mis Mai 2009, ond symudwyd y dyddiad i'r 27ain o Fawrth, 2009, er mwyn osgoi gwrthdaro gyda rhyddhad y ffilm Avatar,. Mae Monsters vs. Aliens yn cynnwys lleisiau Reese Witherspoon, Seth Rogen, Hugh Laurie, Will Arnett, Rainn Wilson, Kiefer Sutherland, Stephen Colbert, a Paul Rudd.
Dolenni Allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol
- (Saesneg) Clipiau o'r ffilm
