Monrovia
Oddi ar Wicipedia
Monrovia yw prifddinas Liberia yng Ngorllewin Affrica. Saif ar Benrhyn Mesurado, ychydig i'r de o aber afon Sant Paul, ac mae'r boblogaeth tua 470,000. Yn ogystal a bod yn brifddinas, Monrovia yw porthladd pwysicaf y wlad.
Sefydlwyd y ddinas yn 1822,[1] a chafodd ei henw er anrhydedd i James Monroe, oedd yn Arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd.
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ "Map of Liberia, West Africa". 1830. http://www.wdl.org/en/item/446/. Adalwyd 2013-06-02.