Monaghan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Amgueddfa Monaghan neu 'Muineachán' mewn Gwyddeleg.

Tref yn Iwerddon yw Monaghan (Saesneg) neu Muineachán (Gwyddeleg) sy'n dref sirol Swydd Monaghan yn nhalaith Ulster, Gweriniaeth Iwerddon. Fe'i lleolir ar y briffordd N2 sy'n ei chysylltu gyda Dulyn i'r de a gyda Derry a Letterkenny i'r gogledd. Yng nghyfrifiad 2006 bu 7,811 o bobl yn byw ynddo (yn cynnwys yr ardal wledig o'i chwmpas).

Ceir amgueddfa hanes ac archaeoleg yn y dref a leolir yn yr hen lys sirol. Ymhlith y cynnwys ceir croes Geltaidd An Cochar, gwaith arian sy'n dyddio o'r 12fed ganrif. Mae gan Sinn Fein amgueddfa yn Stryd Baile Atha Cliath am hanes llenyddiaeth a cherddoriaeth sy'n ymwneud â chenedlaetholdeb Gwyddelig.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Clive James, Iwerddon (Gwasg Carreg Gwalch, 1993), tud. 173.
Flag of Ireland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.