Moel y Gamelin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyfesurynnau: 53°01′N 3°14′W / 53.01°N 3.23°W / 53.01; -3.23
Moel y Gamelin
()
Carnedd fodern yng nghanol hen grug crwn ar gopa Moel y Gamelin
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun Carnedd fodern yng nghanol hen grug crwn ar gopa Moel y Gamelin
Uchder (m) 577
Uchder (tr) 1893
Amlygrwydd (m) 382
Lleoliad rhwng Llandudno a Wrecsam
Map topograffig Landranger 116;
Explorer 255 256
Cyfesurynnau OS SJ176465
Gwlad Cymru
Dosbarthiad Marilyn (mynydd) a Dewey
Moel y Gamelin is located in Cymru
Moel y Gamelin (Cymru)

Mynydd yn Sir Ddinbych yw Moel y Gamelin (578 metr). Mae'n gorwedd yn ne-ddwyrain y sir tua 4 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Llangollen, yng nghymuned Llandysilio-yn-Iâl a thua 2.5 milltir i'r gogledd o bentref bychan Llandysilio ei hun. Dyma bwynt uchaf y gyfres o fryniau canolig eu huchder a adnabyddir fel Mynydd Llandysilio ac sy'n gorwedd rhwng y ffyrdd A5104 i'r gogledd, yr A542 i'r dwyrain a'r A5 i'r de.

Ar graig arall gerllaw ceir Moel y Gaer, sy'n safle bryngaer sylweddol o Oes yr Haearn.

Crug crwn ar y copa[golygu]

Ceir crug crwn a godwyd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ar y copa, sy'n dyddio o Oes yr Efydd ar gopa'r mynydd. Mae'n mesur 30 metr o gylch ac mae'n 1.8 metr o uchder. Pridd a cherrig yw deunydd y garnedd ac mewn canlyniad mae wedi dioddef erydu gan gerddwyr a beiciau mynydd.[1] Yn ôl gwefan Coflein, fodd bynnag, mae mewn cyflwr da ("heb ei falurio").[2]

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: DE068.[3] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[4]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Helen Burnham, Clwyd and Powys, yn y gyfres A Guide to Ancient and Historic Wales (Cadw/HMSO, 1995), tud. 29.
  2. Gwefan Coflein
  3. Cofrestr Cadw.
  4. English Heritage

Dolen allanol[golygu]

CymruDinbych.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato