Modryb

Oddi ar Wicipedia

Perthynas deuluol sydd yn chwaer i fam neu dad yw modryb. Yr enw ar berthynas wrywol gyffelyb, sef brawd mam neu dad, yw ewythr. Gall fodryb fod yn berthynas waed i'w nai neu nith, neu yn berthynas drwy briodas i ewythr.

Tardda'r gair o'r ffurf Frythoneg dybiedig *mātripī (modryb), sydd yn deillio o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *māter (mam).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  modryb. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 25 Awst 2017.
Eginyn erthygl sydd uchod am y teulu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.