Model trawsnewid demograffig

Oddi ar Wicipedia

Sut mae poblogaeth yn newid dros amser[golygu | golygu cod]

Y gwahaniaeth rhwng cyfradd genedigaethau syml a chyfradd marwolaethau syml yw cyfradd cynnydd naturiol, ac mae'n amrywio'n helaeth rhwng gwledydd. Mae nifer o demograffwyr yn credu bod yna gysylltiad agos rhwng cyfraddau ffrwythlondeb a lefel datblygiad economaidd ardal. Maent yn dangos bod newidiadau sy'n gysylltiedig â diwydiannau a threfoli yn arwain at drawsnewid demograffig lle mae cyfraddau genedigaethau a cyfraddau marwolaethau uchel.

Mae'r model trawsnewid demograffig yn disgrifio sut mae'r cydbwysedd rhwng ffrwythlondeb a marwoldeb yn newid dros amser. Dangosir y model trawsnewid demograffig isod.

Cam 1- Sefydlog Isel neu gam Cyn-drawsnewidiad[golygu | golygu cod]

Yn y cam hwn mae'r cyfraddau genedigaethau a cyfraddau marwolaethau yn uchel ac yn agored i amrywiadau tymor byr. Mae'r gyfradd marwolaeth yn uchel o ganlyniad i ataliadau megis newyn ac afiechyd. Mae cyfraddau geni yn uchel wrth i bobl geisio cael y cyfle gorau i'w plant oroesi. Mae'r twf poblogaeth yn statig.

Cam 2- Ehangu cynnar neu gam drawsnewid cynnar[golygu | golygu cod]

Mae cyfraddau marw yn dechrau gostwng oherwydd safonau byw gwell, yn bennaf oherwydd gwelliannau mewn maeth ac iechyd cyhoeddus. Mae newynau ac epidemigau yn llai aml. Mae'r cyfraddau geni yn aros yn uchel gan fod plant yn ffynhonnell werthfawr o lafur teulu ac yn gweithredu fel sicrwydd yn nes ymlaen mewn bywyd. Yn y cam hwn mae poblogaeth yn cynyddu ar gyfradd gyflymach.

Cam 3- Ehangu hwyr neu gam drawsnewidiad canol[golygu | golygu cod]

Yn y cam hwn oherwydd technoleg well mewn amaethyddiaeth a diwydiant ynghyd â systemau addysg well a deddfwriaeth yn rheoli cyflogaeth plant, ceir gostyngiad yng ngwerth economaidd a cymdeithasol plant ac felly ceir lleihad yn y cyfraddau geni. Mae gwelliannau sy'n dal i barhau mewn safon byw yn gyffredinol ac mewn iechyd cyhoeddus yn arwain at ostyngiad yn y cyfraddau marwolaethau. Mae cyfradd twf poblogaeth yn dechrau gostwng

Cam 4- Sefydlog isel neu gam drawsnewid hwyr[golygu | golygu cod]

Yn y cam hwn mae'r cyfraddau genedigaethau a cyfraddau marwolaethau yn isel ac mae'r boblogaeth yn weddol sefydlog efo rhai ysbeidiau lle bo'r gyfradd geni'n amrywio. Dyma'r cam mae'r Deyrnas Unedig ynddo.

Cam 5- Dirywiad poblogaeth[golygu | golygu cod]

Mae rhai demograffwyr am ychwanegu'r pumed cyfnod i'r model. Mae dirywiad poblogaeth yn digwydd pan nid oes yna waith ac mae gwlad yn dad-diwydianeiddio ac felly mae yna lai o alw am swyddi. Mae hyn yn digwydd yn Yr Almaen ac yn Yr Eidal ar y foment.

Strwythurau Poblogaeth y camau[golygu | golygu cod]

Cynrychiolir strwythurau poblogaeth y cyfnodau gan y pyramidiau poblogaeth isod.

Manteision y model[golygu | golygu cod]

  • Hawdd i'w ddeall
  • Dangos llawer o ddata ar un graff
  • Perthnasol i bob gwlad
  • Cymharu yn haws
  • Gellir mesur y cynnydd naturiol

Anfanteision y model[golygu | golygu cod]

  • Dim llawer o fanylder
  • Nid yw'n fanwl gywir
  • Nid yw'n dangos tystiolaeth o rhyfel neu trychineb naturiol.
  • Mae yna rhai eithriadau (e.e. Irac)
  • Dim cyfnod 6