Miyagawa Isshō

Oddi ar Wicipedia
Miyagawa Isshō
Ganwyd1689 Edit this on Wikidata
Bu farw20 Ionawr 1780 Edit this on Wikidata
Nii-jima Edit this on Wikidata
DinasyddiaethJapan Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, ukiyo-e artist Edit this on Wikidata
Arddullbijinga Edit this on Wikidata
Paentiad gan Miyagawa Isshō. Heb deitl.
O'r gyfres Difyrion y gwanwyn.
O'r gyfres Difyrion y gwanwyn.
Yn yr enw Japaneaidd hwn, Miyagawa yw'r enw teuluol.

Arlunydd Siapaneaidd oedd Miyagawa Isshō (Siapaneg: 宮川一笑) (bl. 1750au) fu'n un o arloeswyr yr arddull ukiyo-e. Mae trwch ei baentiadau a lluniau yn portreadu actorion kabuki, geisha, ymgodymwyr sumo, a gwrthrychau eraill o fywyd bob dydd yn nhrefi Siapan.

Roedd yn ddisgybl i Miyagawa Chōshun (1682-1752), arlunydd sy'n ddyledus i Hishikawa Moronobu am lawer o elfennau yn ei waith. Fel nifer o artistiaid ukiyo-e eraill, cynhyrchodd Isshō sawl darlun shunga, sef lluniau erotig. Bu'n weithgar yn ninas Edo, ger Tokyo.

Gwyddys i Isshō gael ei alltudio o Edo yn 1751, gyda'i feistr Chōshun, i ynys Niijima am flwyddyn. Canlyniad ymrafael am daliad am baentiad yn Nikkō oedd hynny. Roedd artist o'r ysgol Kanō wedi comisiynu Chōshun i baentio rhai o furiau'r Nikkō Tōshō-gū, teml yn Nikkō, ond gwrthododd dalu. Bu ffrwgwd a lladdwyd yr artist Kanō, efallai gan Isshō.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato