Mitt Romney
Oddi ar Wicipedia
| Mitt Romney | |
|
70fed Llywodraethwr Massachusetts
|
|
| Cyfnod yn y swydd 2 Ionawr, 2003 – 4 Ionawr 2007 |
|
| Rhagflaenydd | Paul Cellucci |
|---|---|
| Olynydd | Deval Patrick |
|
|
|
| Geni | 12 Mawrth, 1947 Detroit, Michigan |
| Plaid wleidyddol | Gweriniaethol |
| Priod | Ann Romney |
| Plant | Taggart, Matthew, Joshua, Benjamin, Craig |
| Alma mater | Prifysgol Stanford, Prifysgol Brigham Young, Prifysgol Harvard |
| Crefydd | Mormoniaeth |
| Llofnod | |
Gwleidydd ac entrepreneur Americanaidd a fu'n Llywodraethwr talaith Massachusetts o 2003 hyd 2007 yw Willard Mitt Romney (ganwyd 12 Mawrth 1947)[1]. Ef oedd ymgeisydd y Blaid Weriniaethol yn etholiad arlywyddol 2012, a chollodd i'r deiliad Barack Obama.
Mab Leonore a George W. Romney (Llywodraethwr Michigan, 1963-1969) yw Mitt Romney. Ym 1969 priododd Ann Davies. Ym 1971, graddiodd gyda gradd Baglor y Celfyddydau gan Brifysgol Brigham Young ac, ym 1975, gyda Juris Doctor a Meister Gweinyddu Busnes oddi wrth Prifysgol Harvard. Ym 2002, cafodd ei ethol yn llywodraethwr talaith Massachusetts.
Dilynodd grefydd ei dad, fel Mormon.[2]
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Home sweet home? Michigan primary a challenge for Romney'; papur newydd: USA Today 20 Chwefror 2012
- ↑ Romney Gains Momentum As He Keeps On Running; awdur: Gell, Jeffrey N.; papur newydd: The Harvard Crimson; dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 1994.
Dolenni allanol[golygu]
- (Saesneg) Gwefan Swyddogol Mitt Romney