Mingora

Oddi ar Wicipedia
Mingora
Mathdinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth279,914 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwat Edit this on Wikidata
GwladBaner Pacistan Pacistan
Uwch y môr984 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Swat Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.7717°N 72.36°E Edit this on Wikidata
Map

Dinas fwyaf dosbarth Swat, Khyber Pakhtunkhwa, Pacistan yw Mingora (hefyd Mangora neu Mingaora weithiau) (Pashto: مینگورہ) . Gorwedd 984 metr (3231 troedfedd) i fyny yn rhan isaf Swat, ar lan Afon Swat, 2 km o Saidu Sharif, prifddinas weinyddol Swat. Yn 1998, roedd gan Mingora boblogaeth o tua 175,000. Ym Mawrth 2009 daeth y ddinas dan reolaeth y Taliban a'u cynghreiriad.

Ceir sawl safle archaeolegol ger Mingora, yn cynnwys safleodd a gysylltir â gwareiddiad Bwdhaidd hynafol Gandhara.

Yn nechrau mis Mai 2009 dechreuodd Byddin Pacistan ymosodiad ar y Taliban yn Swat ac roedd miloedd o bobl yn ceisio ffoi o'r ddinas i ddiogelwch rhag ofn iddi ddod dan ymosodiad yn y gwrthdaro sy'n rhan o ryfel ehangach yn y gogledd-orllewin.

Pobl o Mingora[golygu | golygu cod]