Mimosa (llong)

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Llong hwylio a oedd yn Tea Clipper wedi ei addasu i gludio pobl ac yn pwyso 447 tunnell oedd y Mimosa. Roedd tua 160 o Gymry yn teithio arni i Batagonia yn yr Ariannin i godi'r Wladfa ym 1865.

Roedd y llong yn gadael Lerpwl yn Lloegr ar 28 Mai, 1865 a chyrraeddon Porth Madryn (heddiw: Puerto Madryn) ym Mae Newydd (Golfo Nuevo yn Sbaeneg), Patagonia ar ôl taith o 2 fis, ar 28 Gorffennaf. Er fod y tywydd yn dda yn ystod y daith roedd hi'n galed iawn a fu nifer o blant farw. Sgrifennodd Joseph Seth Jones, argraffydd o Ddinbych, ddyddiadur ar y llong sydd yn dangos pa mor galed oedd y daith.

Roedd Lewis Jones ac Edwin Roberts yn aros ar draeth Porth Madryn pan gyrraeddodd y llong, ond roedd bywyd yn dal i fod yn galed ar ôl cyrraedd. Ar y ddechrau, roedd rhaid byw mewn ogofau clogwyn ar draeth Porth Madryn am amser, ac ar ôl mynd i Rawson roedd rhaid arferu i'r tir a hinsawdd dieithr a roedd prinder bwyd yn parhau am rai blynyddoedd.

Mae olion yr ogofau lle roedd y Cymry yn byw yn ystod y cyfnod cyntaf i'w weld erbyn heddiw.

[golygu] Teithwyr 1865

Enw Nodyn
Austin, Thomas Tegai Ganwyd: 1854, Aberpennar. Amddifad. Yn fyw gyda Daniel & Mary Evans. Priodwyd: Mary Elizabeth Williams, 27 Mai 1875, Y Wladfa.
Austin, William Ganwyd: 1852, Aberpennar. Amddifad. Yn fyw gyda Daniel & Mary Evans. Priodwyd: Jane Hughes, 19 Mehefin 1873, Rawson, Y Wladfa.
Davies, Evan Aberdâr
Davies, Ann Aberdâr. Gwraig Evan Davies.
Davies, Margaret Ann Aberdâr. Merch Evan & Ann Davies.
Davies, James
(Iago Dafydd)
Ganwyd: c1847, Brynmawr. Bu Farw: Chwefror 1866, Y Wladfa.
Davies, John
(Ioan Dafydd)
Ganwyd: c1847, Aberpennar.
Davies, Lewis Ganwyd: c1841, Aberystwyth.
Davies, Rachel Aberystwyth. Gwraig Lewis Davies.
Davies, Thomas G. Aberystwyth. Mab Rachel and Lewis Davies.
Davies, Robert Llandrillo.
Davies, Catherine Llandrillo. Gwraig Robert Davies.
Davies, William Llandrillo. Mab Robert & Catherine Davies.
Davies, Henry Llandrillo. Mab Robert & Catherine Davies.
Davies, John Ganwyd: c1864, Llandrillo. Mab Robert & Catherine Davies. Bu farw: 27 Mehefin 1865 ar Y Mimosa.
Davies, John E. Aberpennar.
Davies, Selia Aberpennar. Gwraig John E. Davies.
Davies, John Aberpennar. Mab John E. & Selia Davies.
Davies, Thomas Aberdâr.
Davies, Eleanor Aberdâr. Gwraig (ail) Thomas Davies.
Davies, David Aberdâr. Mab Thomas Davies (priodas 1af).
Davies, Hannah Aberdâr. Merch Thomas Davies (priodas 1af).
Davies, Elizabeth Aberdâr. Merch of Thomas Davies (priodas 1af).
Davies, Ann Aberdâr. Merch Thomas Davies (priodas 1af).
Davies, William Lerpwl.
Ellis, John Lerpwl.
Ellis, Thomas Lerpwl.
Ellis, Richard Llanfechain, Llanidloes.
Ellis, Frances Llanfechain, Llanidloes.
Evans, Daniel Aberpennar. Priodywd: Mary Jones
Evans, Mary Gwraig Daniel Evans. Ganwyd: 1836, Y Pîl. Bu farw: 1912, Y Wladfa.
Evans, Elizabeth Merch Daniel & Mary Evans. Ganwyd: c1860, Aberpennar.
Evans, John Daniel Mab Daniel & Mary Evans. Ganwyd: c1862, Aberpennar. Bu farw: 6 Mawrth 1943.
Evans, Thomas Pennant
(Twmi Dimol)
Ganwyd: c1836, Pennant Melangell. Criw. Priodwyd: Elizabeth Pritchard, 30 Mawrth 1866. Bu farw: Chewfror 1868 ar Y Denby,.
Greene, Thomas William Nassau Ganwyd: c1844, Swydd Kildare, Iwerddon. Criw - Llawfeddyg. Bu farw: Ionawr, 1922, Iwerddon.
Harris, Thomas Aberpennar.
Harris, Sara Aberpennar. Gwraig Thomas Harris.
Harris, William Aberpennar. Mab Thomas & Sara Harris.
Harris, John Aberpennar. Mab Thomas & Sara Harris.
Harris, Thomas Aberpennar. Mab Thomas & Sara Harris.
Harris, Daniel Aberpennar. Mab Thomas & Sara Harris.
Hughes, Catherine Penbedw.
Hughes, Griffith Ganwyd: c1829, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog. Glöwr.
Hughes, Mary Gwraig Griffith Hughes. Ganwyd: c1834, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, Jane Merch Griffith & Mary Hughes. Ganwyd: c1853, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog. Priodwyd (1): Richard Howell Williams, 15 Mehefin 1867, Porth Madryn. Priodwyd (2): William Austin, 19 Mehefin 1873, Rawson
Hughes, Griffith Mab Griffith & Mary Hughes. Ganwyd: c1856, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, David Mab Griffith & Mary Hughes. Ganwyd: c1859, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, John Yn fyw yn Rhosllannerchrugog. Ganwyd: c1835. Bu farw: 13 Mawrth 1866, Y Wladfa
Hughes, Elizabeth Gwraig John Hughes. Ganwyd: c1826. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, William John Mab John & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c1855. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, Myfanwy Mary Merch John & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c1861. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, John Samuel Mab John & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c1863. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, Henry Mab John & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c1864, Rhosllannerchrugog. Bu farw 5 Awst 1865, Porth Madryn.
Hughes, Hugh J.
(Cadfan)
Ganwyd: c1825, Sir Fôn. Bu'n byw yn Lerpwl. Saer.
Hughes, Elizabeth Gwraig Hugh J Hughes (Cadfan). Ganwyd: c1820, Sir Gaernarfon. Bu'n byw yn Lerpwl.
Hughes, Jane Merch Elizabeth Hughes. Ganwyd: c1843, Sir Gaernarfon. Bu'n byw yn Lerpwl.
Hughes, David Mab Hugh J & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c1854, Sir Gaernarfon. Bu'n byw yn Lerpwl.
Hughes, Llewelyn Mab Hugh J & Elizabeth Hughes. Ganwyd: 1861, West Derby, Lerpwl.
Hughes, Richard Caernarfon.
Hughes, William Ynys Môn.
Hughes, Jane Ynys Môn. Gwraig William Hughes.
Hughes, Jane Ynys Môn. Merch William & Jane Hughes.
Hughes, William Abergynolwyn.
Humphreys, Maurice Ganwyd: c1838, Ganllwyd, Dolgellau. Priodwyd: Elizabeth Harriet Adams, 1864, West Derby, Lerpwl.
Humphreys, Elizabeth Harriet Ganwyd: 1844, Cilcain. Gwraig Maurice Humphreys.
Humphreys, Lewis Ganllwyd, Dolgellau.
Humphreys, John Ganllwyd, Dolgellau.
Huws, Rhydderch Manceinion.
Huws, Sara Manceinion. Gwraig Rhydderch Huws.
Huws, Meurig Manceinion. Gwraig Rhydderch & Sara Huws.
Jenkins, Aaron Ganwyd: 1 Awst 1831, Sain Ffagan, Caerdydd. Priodwyd (1): Mary James Davies, 27 Ionawr 1855, Merthyr Tudful. Priodwyd (2): Rachel Evans, 14 Medi 1860, Merthyr Tudful. Priodwyd (3): 12 Medi 1868, Coednewydd, Y Wladfa. Bu farw: 17 Mehefin 1879, Chubut, Y Wladfa. Glöwr.
Jenkins, Rachel Aberpennar. Gwraig (ail) Aaron Jenkins.
Jenkins, James Aberpennar. Mab Aaron & Rachel Jenkins.
Jenkins, Richard Mab Aaron & Rachel Jenkins. Ganwyd: 5 Mai 1861, Troed y Rhiw, Merthyr Tudful. Priodwyd: Mary Evans 22 Mehefin 1895. Bu farw: Esquel, Y Wladfa.
Jenkins, Thomas Ganwyd: 3 Rhagfyr 1862, Aberpennar. Bu farw: 11 Mehefin 1865 ar Y Mimosa.
Jenkins, Rachel Merch Aaron & Rachel Jenkins. Ganwyd: 26 Mehefin 1865 ar Y Mimosa. Bu farw: 22 Medi 1865, Rawson.
Jenkins, William Aberpennar.
John, David Aberpennar.
John, Mary Ann Aberdâr.
Jones, Evan Aberdâr. Mab Eleanor Davies (priodas 1af).
Jones, Thomas Aberdâr. Mab Eleanor Davies (priodas 1af).
Jones, David Aberdâr. Mab Eleanor Davies (priodas 1af).
Jones, Elizabeth Aberdâr. Merch Eleanor Davies (priodas 1af).
Jones, Elizabeth Aberpennar.
Jones, Anne Bethesda.
Jones, George Lerpwl.
Jones, David Lerpwl
Jones, James Aberpennar.
Jones, Sarah Aberpennar. Gwraig James Jones.
Jones, Mary Anne Aberpennar. Merch James & Sarah Jones.
Jones, James Aberpennar. Mab James & Sarah Jones.
Jones, John Aberpennar.
Jones, Elizabeth Aberpennar.
Jones, Richard Aberpennar. Mab John & Elizabeth Jones.
Jones, Ann Aberpennar. Merch John & Elizabeth Jones.
Jones, Margaret Aberpennar. Merch John & Elizabeth Jones.
Jones, John (jnr) Aberpennar.
Jones, Mary Aberpennar. Gwraig John Jones.
Jones, Thomas Harries Aberpennar.
Jones, Joseph Seth Dinbych.
Jones, Joshua Cwmaman, Aberdâr.
Jones, Mary Aberpennar.
Jones, Stephen Caernarfon.
Jones, William R.
(Bedol)
Y Bala.
Jones, Catherine Y Bala. Gwraig William R. Jones (Bedol).
Jones, Mary Ann Y Bala. Merch William R. & Catherine Jones.
Jones, Jane Y Bala. Merch William R. & Catherine Jones.
Jones, Richard
(Berwyn)
Ganwyd: c1838, Tregeiriog (teulu o'r ardal Y Berwyn). Symudodd i Efrog Newydd, UDA. Criw - Cyfrifydd. Priodwyd: Elizabeth Pritchard, 25 Rhagfyr 1868, Rawson. Bu farw: 25 Rhagfyr 1917.
Lewis, Anne Abergynolwyn.
Lewis, Mary Aberpennar.
Matthews, Abraham Aberdâr.
Matthews, Gwenllian Aberdâr. Gwraig Abraham Matthews.
Matthews, Mary Annie Aberdâr.
Morgan, John Pen-y-Garn, Aberystwyth.
Nagle, Robert F Ganwyd: c1833, Abermaw. Criw - Stiward y teithwyr. Bu farw: Chwefror 1868 ar Y Denby
Owen, Ann Lerpwl.
Price, Edward Lerpwl.
Price, Martha Lerpwl. Gwraig Edward Price.
Price, Edward Lerpwl. Mab Edward & Martha Price.
Price, Martha Lerpwl. Merch Edward & Martha Price.
Price, Griffith Ffestiniog.
Pritchard, Elizabeth Caergybi.
Rhys, James Berry Ganwyd: c1842. Priodwyd: Grace Roberts, 3 Gorffenaf 1868, Glan Camwy.
Rhys, William Thomas Tregethin (neu Trefethin, ger Aberpennar?).
Richards, William Aberpennar
Roberts, Elizabeth Bangor.
Roberts, Grace Bethesda. Priodwyd: James Berry Rhys, 3 Gorffenaf 1868, Glan Camwy.
Roberts, John Moelwyn Ffestiniog.
Roberts, John, Ffestiniog.
Roberts, Mary Ffestiniog. Gwraig John Roberts.
Roberts, Mary Ffestiniog. Merch John & Mary Roberts.
Roberts, Thomas Ffestiniog. Mab John & Mary Roberts
Roberts, John Ffestiniog. Mab John & Mary Roberts
Roberts, William Seacombe, Lerpwl
Solomon, Griffith Ganwyd: c1841, Dolbenmaen. Priodwyd: Elizabeth Edwards, Ffestiniog, 1861.
Solomon, Elizabeth Gwraig Griffith Solomon. Ganwyd: c1835, Ffestiniog.
Solomon, Elizabeth Merch Griffith & Elizabeth Soloman. Ganwyd: 1864, Ffestiniog. Bu farw: 18 Gorffenaf 1864 ar Y Mimosa.
Thomas, John Murray Pen-y-bont ar Ogwr.
Thomas, Robert Bangor.
Thomas, Mary Bangor. Gwraig Robert Thomas.
Thomas, Mary Bangor. Merch Robert & Mary Thomas.
Thomas, Catherine Jane Bangor. Merch Robert & Mary Thomas.
Thomas, Thomas Aberpennar.
Williams, Amos Ganwyd: 1841, Llangïan. Criw - Cogydd y deithwyr.
Williams, Eleanor Gwraig Amos Williams.
Williams, Elizabeth Merch Amos & Eleanor Williams.
Williams, Dafydd Aberystwyth.
Williams, Jane Lerpwl.
Williams, John Penbedw.
Williams, Elizabeth Penbedw. Gwraig John Williams.
Williams, John Penbedw. Mab John & Elizabeth Williams.
Williams, Elizabeth Penbedw. Merch John & Elizabeth Williams.
Williams, Watkin William Ganwyd: 1832, Abermaw. Yn fyw yn Lerpwl.
Williams, Elizabeth Louisa Chwaer Watkin William Williams. Ganwyd: 1838, Abermaw, Yn fyw yn Lerpwl.
Williams, Watkin Wesley Brawd Watkin William Williams. Ganwyd: 1838, Abermaw. Yn fyw yn Lerpwl.
Williams, Catherine
Williams, Robert Meirion Ganwyd: c1814, Llanfairfechan.
Williams, Richard Howell Ganwyd: 1847, Llanfairfechan. Mab Robert Meirion Williams. Priodwyd: 15 Mehefin 1867, Porth Madryn
Williams, Thomas Aberpennar.
Williams, Mary, Aberpennar.
Williams, William Lerpwl.
Wood, Elizabeth Lerpwl.
Enw Nodyn
Roberts, Edwin Cynrig Ganwyd: c1838, Nannerch. Ymfudodd y teulu i Wisconsin yn 1847. Gadawodd i Buenos Aires ar yr Y Córdoba ar 12 Mawrth 1865. Priodwyd: Ann Jones, 19 Ebrill 1866. Dychwelodd i Gymru. Bu farw: 1893, Bethesda.
Jones, Lewis Ganwyd: 20 Ionawr 1836, Caernarfon. Priodwyd: Ellen Griffith, 1859, Sir Fôn. Gadawodd i Buenos Aires ar yr Y Córdoba ar 12 Mawrth 1865. Bu farw 24 Tachwedd 1904, Trelew. Claddodd ym Mynwent Moriah yn y dre. Cyhoeddwr.
Jones, Ellen Lerpwl. Ganwyd: c1840, Niwbwrch. Gwraig Lewis Jones. Gadawodd i Buenos Aires ar yr Y Córdoba ar 12 Mawrth 1865.

[golygu] Llyfrau

  • Dyddiadur Mimosa – El diario del Mimosa gan Joseph Seth Jones. Golygydd, Elvey Mac Donald. Cyfres Dyddiaduron Cymru. Gwasg Carreg Gwalch (Hanner Cymraeg, hanner Sbaeneg)
  • Mimosa: the life & times of the ship that sailed to Patagonia. Susan Wilkinson, Y Lolfa, 2007 (Saesneg)
  • Mimosa's Voyages: Official Logs, Crew List and Masters. Susan Wilkinson, Y Lolfa, 2007 (Saesneg)
Offer personol
Ieithoedd eraill