Mike Stock

Oddi ar Wicipedia
Mike Stock
GanwydMichael Stock Edit this on Wikidata
3 Rhagfyr 1951 Edit this on Wikidata
Margate Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Orchards Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, ysgrifennwr, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd recordiau Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr a chynhyrchydd recordiau Seisnig ydy Michael Stock (ganed 3 Rhagfyr 1951, Margate, Swydd Gaint, Lloegr). Mae'n fwyaf adnabyddus fel aelod o'r triawd cyfansoddi a chynhyrchu recordiau Stock Aitken Waterman. Mae wedi ysgrifennu a/neu gynhyrchu nifer o ganeuon ar y cyd, gan gynnwys 16 cân a aeth i rif 1 siart senglau'r DU, a gyda nifer yn fwy yn cyrraedd y 40 uchaf.[1]

Yn Ebrill 2003, lansiodd Stock label recordio newydd o'r enw Better the Devil Records.

Ysgrifennodd Stock lyfr o'r enw The Hit Factory: The Stock Aitken Waterman Story (ISBN 1-84330-729-4), a gyhoeddwyd ym Medi 2004.

Ail-ffurfiodd ei bartneriaeth gyda SAW yn 2007 ac mae'n parhau i fod yn weithgar fel cyfansoddwr a chynhyrchydd recordiau, gan lansio mentrau a phrosiectau newydd. Yn 2010, cyd-weithiodd â Pete Waterman wrth ysgrifennu cân y DU ar gyfer Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010 o'r enw That Sounds Good To Me, a berfformiwyd gan Josh Dubovie.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Taking Stock of modern pop BBC. 2004-09-13 Adalwyd ar 2007-05-27