Midlothian (etholaeth seneddol y DU)

Oddi ar Wicipedia
Midlothian
Etholaeth
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Midlothian yn Yr Alban.
Awdurdodau unedol yr AlbanMidlothian
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd1955
Aelod SeneddolOwen Thompson
SNP
Nifer yr aelodau1
Crewyd oMidlothian a Swydd Peebles
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd EwropYr Alban

Mae Midlothian yn etholaeth Sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1955 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae'r etholaeth o fewn swydd Midlothian.

Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Owen Thompson, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP) pan gipiodd y sedd oddi wrth y Blaid Lafur, gyda 9,859 o fwyafrif (gogwydd: +23.4 o Lafur i'r SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, collodd Owen Thompson ei sedd i Danielle Rowley (Llafur) gyda dim ond mwyafrif o 885. Ail-gipiwyd y sedd gan Thompson ar ran yr SNP yn 2019.

Aelodau Seneddol[golygu | golygu cod]

Etholiad Aelod Plaid
1955 David Johnstone Pryde Llafur
1959 James Hill Llafur
1966 Alex Eadie Llafur
1992 Eric Clarke Llafur
2001 David Hamilton Llafur
2015 Owen Thompson SNP
2017 Danielle Rowley Llafur
2019 Owen Thompson SNP

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|