Michael Schumacher

Oddi ar Wicipedia
Michael Schumacher
FfugenwMarcel Niederhausen Edit this on Wikidata
Ganwyd3 Ionawr 1969 Edit this on Wikidata
Hürth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethgyrrwr Fformiwla Un, rasiwr motobeics Edit this on Wikidata
SwyddLlysgennad Ewyllus Da UNICEF Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Taldra174 centimetr Edit this on Wikidata
PriodCorinna Schumacher Edit this on Wikidata
PlantMick Schumacher, Gina-Maria Schumacher Edit this on Wikidata
Gwobr/auOfficier de la Légion d'honneur, Silbernes Lorbeerblatt, Gwobr Chwaraeon Tywysoges Astwrias, L'Équipe Champion of Champions, Dinesydd Anrhydeddus Sarajevo, Hall of Fame des deutschen Sports, Cadlywydd Urdd Teilyngdod Weriniaeth yr Eidal, German Sportspersonality of the Year, German Sportspersonality of the Year, Laureus World Sports Award for Sportsman of the Year, Gwobr y Wladwriaeth: Gogledd Rhine-Westphalia, Laureus World Sports Award for Sportsman of the Year Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://michael-schumacher.de Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auJordan Grand Prix, Benetton Formula, Scuderia Ferrari, Mercedes F1 Team Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonLwcsembwrg, yr Almaen Edit this on Wikidata
llofnod

Cyn-yrrwr rasio Fformiwla Un o'r Almaen yw Michael Schumacher (ganed 3 Ionawr 1969). Enillodd bencampwriaeth y byd saith gwaith, yn 1994, 1995, 2000, 2001, 2002, 2003 a 2004, mwy nag unrhyw yrrwr arall yn hanes Fformiwla Un.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn Hürth Hermülheim yn yr Almaen. Dechreuodd yrru yn Fformiwla Un yn 1991 i dîm Jordan; ei ras gyntaf oedd Grand Prix Gwlad Belg, lle cymerodd le Bertrand Gachot, a oedd yn y carchar. Erbyn y ras nesaf roedd wedi arwyddo cytundeb gyda thîm Benetton. Enillodd ei fuddugoliaeth gyntaf yn Grand Prix Gwlad Belg 1992, ac aeth ymlaen i ennill y bencampwriaeth ddwywaith i Benetton. Symudodd i dîm Ferrari yn 1996, ac enillodd y bencampwriaeth bum gwaith yn olynol iddynt rhwng 2000 a 2004. Cyhoeddodd ei ymddeoliad ar ddiwedd tymor 2006.

Damwain sgïo[golygu | golygu cod]

Yn Rhagfyr 2013, cafodd Schumacher anaf ysgytwol i'w ymennydd mewn damwain sgïo. Fe'i roddwyd mewn coma meddygol am chwe mis hyd at 16 Mehefin 2014. Gadawodd yr ysbyty yn Grenoble i gael waith adsefydlu yn Ysbyty'r Brifysgol, Lausanne.[1] Ar 7 Tachwedd 2014, symudodd Schumacher nôl i'w gartref lle mae'n parhau i dderbyn triniaeth ac adsefydlu preifat..[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Neuro-rééducation: Au CHUV, Michael Schumacher recevra des soins de pointe". 24 heures. Cyrchwyd 9 Medi 2014.
  2. "Michael Schumacher leaves hospital for recovery at home". News (yn Saesneg). BBC. Cyrchwyd 9 Medi 2014.