Michael Moritz

Oddi ar Wicipedia
Michael Moritz
Ganwyd12 Medi 1954 Edit this on Wikidata
Caerdydd, Llywodraeth leol yng Nghymru Edit this on Wikidata
Man preswylSan Francisco Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwyddonydd cyfrifiadurol, person busnes, newyddiadurwr, entrepreneur Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Sequoia Capital
  • Time Edit this on Wikidata
PriodHarriet Heyman Edit this on Wikidata
Gwobr/auKBE, honorary doctor of the Hong Kong University of Science and Technology Edit this on Wikidata

Dyn busnes Cymreig yw Syr Michael Moritz (ganwyd 12 Medi 1954)[1]), mae'n gyfalafwr menter (venture capitalist) gyda chwmni Sequoia Capital, Menlo Park, Califfornia, yn Nyffryn Silicon.

Mae ganddo arbenigedd yn y sector dechnoleg gwybodaeth, ac mae'n adnabyddus am ei fuddsoddiadau mewn cwmnïau rhyngrwyd yn UDA, gan gynnwys Google, Yahoo!, PayPal, Webvan, PlanetRx, ac eToys.

Cyn ymuno â Sequoia ym 1986, treuliodd gyfnod fel newyddiadurwr i gylchgrawn Time ac ysgriefnnodd lyfr ym 1984 o'r enw The Little Kingdom: the Private Story of Apple Computer. Roedd hefyd yn gyd-sylfaenydd Technologic Partners, cwmni cyhoeddi cylchlythyrau a threfnu cynadleddau technoleg.

Ganwyd Moritz yng Nghaerdydd lle mynychodd Ysgol Uwchradd Howardian. Enillodd radd MA mewn hanes o goleg Eglwys Crist, Rhydychen, ac ym 1978 derbyniodd radd Athro mewn Gweinyddu Busnes (MBA) gan Ysgol Fusnes Wharton, Prifysgol Pennsylvania.

Mae'n briod â'r nofelydd Americanaidd Harriet Heyman ac mae ganddynt ddau fab.

Cafodd ei urddo'n farchog ar 30 Hydref 2013.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. NNDB
  2.  Y dyn cyfoethocaf o Gymru’n cael ei urddo’n farchog. Golwg360 (30 Hydref 2013). Adalwyd ar 30 Hydref 2013.