Michael Ball (canwr)
Oddi ar Wicipedia
| Michael Ball | |
|---|---|
Michael Ball |
|
| Ganwyd | 27 Mehefin, 1962 Bromsgrove, Swydd Gaerwrangon, |
| Enwau eraill | Michael Ashley Ball |
| Yn enwog am | Les Misérables, Hairspray |
| Galwedigaeth | Actor, canwr, cyflwynydd radio |
Canwr, actor a chyflwynydd radio a theledu Seisnig yw Michael Ashley Ball (ganwyd 27 Mehefin, 1962 yn Bromsgrove, Swydd Gaerwrangon). Mae ei fam yn dod o Gymru. Mae'n fwyaf adnabyddus am y gân "Love Changes Everything" a'i rôlau mewn sioeau cerdd megis Marius yn Les Misérables, Alex yn Aspects of Love, Caractacus Potts yn Chitty Chitty Bang Bang ac Edna Turnblad yn Hairspray. Enillodd Wobr Laurence Olivier am yr actor gorau mewn sioe gerdd yn 2008 am ei ran yn "Hairspray".