Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Methodistaid Calfinaidd)
Eglwys Bresbyteraidd yng Nghaernarfon

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a elwir hefyd y Methodistiaid Calfinaidd neu'r Trefnyddion Calfinaidd, yn enwad anghydffurfiol Cymreig.

Datblygodd yr enwad allan o'r Diwygiad Methodistaidd yn y 18g dan arweiniad Howel Harris, Daniel Rowland a William Williams, Pantycelyn, ac yn ddiweddarach Thomas Charles. Yn y cyfnod yma roedd yn fudiad o fewn yr eglwys Anglicanaidd, a dim ond yn 1811 y dechreuodd ordeinio gweinidogion ei hun. Cwblhawyd y broses o ymwahanu pan gyhoeddodd Gyffes Ffydd yn 1823. Tyfodd yr enwad yn gyflym yn hanner cyntaf y 19g, dan arweiniad gwŷr fel Thomas Jones (Dinbych) (1756 - 1820), John Elias (1774 - 1841) a John Jones, Talysarn, i fod y mwyaf o enwadau anghydffurfiol Cymru. Roedd yn wahanol i'r enwad arall anghydffurfiol a arddelai'r enw 'Methodistiaid', sef y Methodistiaid Wesleaidd a ddilynai John Wesley yn Lloegr ac a ymledodd yng Nghymru yn ddiweddarach. Calfiniaieth a arddelai'r Methodistiaid yng Nghymru a Chalfinaidd oedd diwynyddiaeth yr enwad o'r dechrau. Bu tŵf pellach yn dilyn Diwygiad 1904-1905, dan arweiniad Evan Roberts, ond ers hynny mae nifer yr aelodau wedi gostwng yn sylweddol.

Ar 31 Rhagfyr 2005 roedd gan yr enwad 33,363 o aelodau gyda 69 o weinidogion llawn amser ac 20 o weinidogion rhan amser. Llywydd presennol y Gymanfa Gyffredinol (2012-13) yw'r Parch Dafydd Andrew Jones, Caerdydd. Yr Ysgrifennydd Cyffredinol yw'r Parch. Meirion Morris.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru, golygwyd dros Gymdeithas Hanes Eglwys Methodistiaid Calfinaidd Cymru gan Gomer Morgan Roberts. Cyfrol 1 : Y deffroad mawr; Cyfrol 2 : Cynnydd y corff; Cyfrol 3 Y Twf a'r Cadarnhau.(Caernarfon : Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd).
  • R. Geraint Gruffydd, Y Gair a'r Ysbryd: Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth, gol. E. Wyn James (2019)

Dolen allanol[golygu | golygu cod]