Mervyn Davies

Oddi ar Wicipedia
Mervyn Davies
Enw llawn Thomas Mervyn Davies
Dyddiad geni (1946-12-09)9 Rhagfyr 1946
Man geni Abertawe, Cymru
Dyddiad marw 15 Mawrth 2012(2012-03-15) (65 oed)
Taldra 1.95 metr; 6tr 4"
Pwysau 108 kg (17 st 0 pwys)
Ysgol U. Ysgol Sirol Penlan
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Rhif Wyth
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
1968-1972
1972-1976
Clwb Rygbi Cymry Llundain
Tîm Rygbi Abertawe
Y Barbariaid
Surrey
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1969–1976
1971–1974
Cymru
Y Llewod
38
8
(7)
(0)

Chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 38 o gapiau dros Gymru fel wythwr yw Thomas Mervyn Davies (9 Rhagfyr 1946 - 15 Mawrth 2012).[1]

Cafodd Davies ei eni yn Abertawe. Ymunodd Davies â Chymry Llundain ym 1968, ac yn ddiweddarach symudodd i Abertawe. Enillodd ei gap cyntaf i Gymru ym 1969 yn erbyn yr Alban, ac aeth ymlaen i chwarae mewn 38 gêm yn olynol i Gymru gan sgorio dau gais. Yn ystod y cyfnod yma enillodd Cymru'r Gamp Lawn ddwywaith a'r Goron Driphlyg deirgwaith.

Aeth ar daith gyda'r Llewod Prydeinig i Seland Newydd ym 1971 ac i Dde Affrica ym 1974, gan chwarae mewn wyth gêm brawf i gyd. Mewn cyfanswm o 46 gêm ryngwladol i Gymru a'r Llewod, dim ond naw gwaith y bu mewn tîm a gollodd.

Diweddwyd ei yrfa gan waedlif y tu mewn i'w graniwm, anaf a ddioddefodd pan oedd yn gapten Abertawe yn erbyn Pontypŵl mewn gêm ym 1976.

Ystyrir Mervyn Davies fel yr wythwr gorau fu'n chwarae i Gymru erioed, ac un o chwaraewyr gorau Cymru mewn unrhyw safle.

Gwobrau
Rhagflaenydd:
Arfon Griffiths
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
1976
Olynydd:
Phil Bennett
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Mervyn Davies". lionsrugby.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-24. Cyrchwyd 10 January 2013.