Merthyr Tudful

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Merthyr Tudfil)
Merthyr Tudful
Hen Neuadd y Dref
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth43,820 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMerthyr Tudful Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.747263°N 3.37795°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO049062 Edit this on Wikidata
Cod postCF47 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDawn Bowden (Llafur)
AS/auGerald Jones (Llafur)
Map
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
HWB
Y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru
CBAC
Radicaliaeth a Phrotest, 1810-1848
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg
Mae'r erthygl hon yn sôn am dref Merthyr Tudful. Am Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, gweler Merthyr Tudful (sir). Am leoedd eraill o'r enw "Merthyr", gweler Merthyr (gwahaniaethu).

Tref ym mwrdeistref sirol Merthyr Tudful, Cymru, yw Merthyr Tudful.[1][2] Saif 23 milltir (37 km) i'r gogledd o Gaerdydd. Yn 2011 roedd ganddi boblogaeth o dros 59,500.

Mae'r dref yn ymestyn o gymer afonydd Taf Fawr a Thaf Fechan i gyfeiriad Pontypridd, rhwng 100 a 400 metr uwchlaw lefel y môr. Tyfodd y dref oherwydd ei daeareg gyfoethog, lle cloddiwyd am dri math o garreg: glo, haearn a chalchfaen. Ar ben hyn, roedd glaw trwm yn peri i'r nentydd lifo'n gryf, gan gynhyrchu ynni i droi peiriannau'r gwaith haearn. Caiff Merthyr ei hadnabod ledled y byd fel prifddinas cynhyrchu haearn yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.

Mae etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni yn ethol aelod i Senedd Cymru a Merthyr Tudful a Rhymni i Senedd San Steffan yn Llundain. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Dawn Bowden (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Gerald Jones (Llafur).[4] Mae'r etholaeth hefyd yn rhan o Ranbarth Dwyrain De Cymru ar gyfer ethol aelodau rhanbarthol Senedd Cymru.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r dystiolaeth ddynol yn mynd yn ôl i'r Oes Efydd, a cheir yn yr ardal grudiau, carneddau a chylchoedd cerrig, er bod llawer o'r olion wedi eu difetha gan yr holl gloddio a chwalu yn sgil y gwaith haearn.

Cododd y Rhufeiniaid gaer yn yr ardal (ym Mhenydarren), a chododd y Normaniaid gastell ym Morlais. Roedd y dref yng nghantref Senghennydd yn Nheyrnas Morgannwg. Gorchfygwyd y dref gan Gilbert de Clare yn ail hanner y 13g.[5]

Adeiladodd yr Anghydffurfwyr gapel yng Nghwm-y-glo yn 1690, a chododd yr Undodiaid un yng Nghefn Coed y Cymer yn 1747. Pan ddaeth y mewnlifiad o bobl yn y 19g, ymunodd y rhan fwyaf gyda'r anghydffurfwyr. Roedd y meistri tir a'r diwydianwyr cyfoethog yn perthyn i Eglwys Loegr, fel mewn llawer o lefydd yng Nghymru.

Roedd hi'n ardal amaethyddol tan tua diwedd y ddeunawfed ganrif. Erbyn 1801 roedd y boblogaeth dros 7,000. Erbyn 1831 roedd y boblogaeth yn 30,000, a hyhi oedd y dref fwyaf yng Nghymru. Roedd y boblogaeth yn tyfu'n gyflymach ym Merthyr nag mewn unrhyw dref arall yng Nghymru.

Erbyn diwedd y 18g roedd gwaith haearn yn bwysig iawn yng Nghymru, ac roedd pedwar gwaith haearn pwysig ym Merthyr, sef Gwaith Haearn Cyfarthfa (eiddo teulu Crawshay), Gwaith Haearn Dowlais, Gwaith Haearn Penydarren a Gwaith Haearn Plymouth. Ym 1831 cyrhaeddodd rhai blynyddoedd o aflonyddwch ymysg gweithwyr Merthyr a'r cyffiniau uchafbwynt treisgar a adwaenir fel 'Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful' neu 'Wrthryfel Merthyr'.

Y Chwyldro Diwydiannol[golygu | golygu cod]

Cafodd y Chwyldro Diwydiannol effaith bellgyrhaeddol ar fywyd bob dydd pobl yn y gymdeithas, gwaith pobl ac ar fywyd gwleidyddol Cymru. Roedd twf cyflym ardaloedd fel Merthyr, o fod yn bentrefi bach gwledig i fod yn drefi diwydiannol mewn cyfnod cymharol fyr, wedi achosi straen enfawr.[6] Yn 1696 dim ond 40 o dai oedd ym Merthyr Tudful. Cafodd y gweithfeydd haearn cyntaf eu hadeiladu ym Merthyr yn 1765. Tyfodd canol tref Merthyr gyda’r diwydiant haearn. Erbyn 1851 roedd 46,378 o bobl yn byw yno. Adnabuwyd Merthyr fel ‘crud’ y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru, gan ddenu gweithwyr i’r gweithfeydd haearn o du mewn i Gymru, o Loegr, Iwerddon a thu hwnt. Merthyr Tudful oedd prif dref haearn Cymru yn ystod y 19eg ganrif, gyda’r pedwar prif waith haearn yno yn cynhyrchu’r un faint o haearn a 25% o gynnyrch haearn yr Unol Daleithiau i gyd. Crëwyd gweithlu enfawr yn yr ardal a chywasgwyd hwy i fyw mewn tai gorlawn, wedi eu hadeiladu heb unrhyw gynllun penodol lle'r oedd afiechydon yn rhemp.

Roedd gan Ferthyr y deunyddiau crai angenrheidiol i sicrhau llwyddiant y pedwar prif waith haearn a oedd wedi eu sefydlu yno erbyn diwedd y 18g:

  • Penydarren, o dan berchenogaeth teulu’r Homfrays
  • Plymouth, o dan berchenogaeth Anthony Bacon ac yna Richard Hill
  • Dowlais, o dan berchenogaeth Josiah John Guest
  • Cyfarthfa, o dan berchenogaeth teulu’r Crawshays.[6]

Sylwodd y dynion busnes hyn fod gan yr ardal y cynhwysion perffaith ar gyfer cynhyrchu haearn o safon - er enghraifft, mwyn haearn (craig yn cynnwys haearn), glo (i boethi’r haearn), calchfaen (i gyflymu’r broses) a chyflenwad o ddŵr cyfleus a digonol.

Haearn oedd un o’r diwydiannau cyntaf i newid Cymru yn ystod y Chwyldro Diwydiannol ar ddiwedd y 18g. Cafodd rhai o’r gweithfeydd haearn cyntaf eu hadeiladu yn Sir Fynwy a Morgannwg. Adeiladwyd gweithfeydd haearn mawr o gwmpas Merthyr Tudful a Dowlais ac agorwyd gweithfeydd haearn eraill i’r dwyrain o Ferthyr yn Nant-y-glo, Blaenafon a Thredegar yn Sir Fynwy.[7]

Roedd bywyd yn galed yn y trefi haearn newydd hyn fel Merthyr, gan fod amgylchiadau gwaith yn beryglus, yr amgylchiadau byw brwnt, y gor-boblogi yn ychwanegu at straen bob dydd bywyd, a chyflogau yn isel ac ansicr. Roedd llawer yn troi at or-yfed fel dihangfa, a oedd yn ei dro yn arwain at ochr dreisgar a chaled bywyd yn y dref. Bu terfysgoedd yn y dref yn 1800, 1813 ac 1816, oedd yn dangos bod tensiynau yn bodoli yn y gymdeithas yno. Ond y terfysg mwyaf difrifol oedd Terfysg Mehefin 1831.

Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful[golygu | golygu cod]

Protestwyr ym Merthyr yn ystod gwrthryfel 1831

Ym 1831 cyrhaeddodd rhai blynyddoedd o aflonyddwch ymysg gweithwyr Merthyr Tudful a'r cyffiniau uchafbwynt treisgar a adnabyddir fel Gwrthryfel Merthyr neu Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful. Roedd gweithwyr yn galw am ddiwygio, yn protestio yn erbyn gostwng eu cyflogau a diweithdra cyffredinol. Yn raddol, ymledodd y brotest i drefi a phentrefi diwydiannol cyfagos, ac erbyn diwedd mis Mai roedd yr ardal gyfan mewn gwrthryfel, a chredir i faner goch chwyldro gael ei chwifio fel symbol o wrthryfel gweithwyr am y tro cyntaf. Cymerodd tua 7,000 i 10,000 o weithwyr ran yn y gwrthryfel. Am bedwar diwrnod, bu ynadon a meistri haearn dan warchae yn y Castle Hotel, ac am wyth diwrnod, Tŷ Penydarren oedd yr unig loches i'r awdurdodau. Roedd gan derfysgwyr gynnau a ffrwydryddion, a sefydlwyd rhwystrau ffyrdd a chadwyn reoli. Gorchmynnodd llywodraeth Prydain yn Llundain y fyddin i adfer trefn yn yr ardal. I ddechrau, gwrthsafodd y protestwyr y fyddin, ond erbyn mis Mehefin llwyddodd 450 o filwyr i wasgaru'r terfysgoedd. Lladdwyd tua 24 o brotestwyr ac arestiwyd yr arweinwyr. Dedfrydwyd dau i farwolaeth.

Bu Terfysg Merthyr yn 1831 yn drobwynt yn hanes y dosbarth gweithiol yng Nghymru gan fod y terfysg wedi dangos bod gan y dosbarth gweithiol gwynion penodol fel grŵp o weithwyr. Roedd y terfysg wedi dangos eu bod yn ymwybodol o’u hunain fel carfan o weithwyr, a dangosodd Terfysg 1831 eu bod am i’r cwynion hynny gael eu clywed. Teimlent orfodaeth i droi at ddulliau terfysglyd eu natur i leisio eu barn gan nad oedd ganddynt lais gwleidyddol i wneud hynny – sef y bleidlais.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Yn ôl traddodiad, cysylltir Merthyr â'r santes Tudful, merch y brenin Brychan Brycheiniog, ac enwyd y dref ar ei hôl. Dywedir iddi gael ei lladd gan baganiaid yn 480; a honnodd Iolo Morgannwg yr enwyd y fan lle'i lladdwyd yn 'Ferthyr' Tudful i'w hanrhydeddu.[8] Ystyr y gair Lladin Martyrium yw 'man cysegredig' a daw'r enw o'r gair 'merthyr' yn ei hail ystyr, sef "eglwys er cof am sant neu ar ei fedd, neu fynwent sanctaidd".[9] Ceir sawl enw lle yng Nghymru sy'n cynnwys 'Merthyr' gan gynnwys Merthyr Mawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Cynog ym Mhowys.

Ardaloedd[golygu | golygu cod]

Arfbais Merthyr Tudful, gyda'i arwyddair: "Nid cadarn ond brodyrdde"

Eglwysi[golygu | golygu cod]

  • Capel Stryd Fawr y Bedyddwyr
  • Eglwys Santes Tudful, Caedraw
  • Eglwys Dewi Sant, Stryd Uchaf
  • Eglwys Ffynnon Santes Tudful, y Chwarel (Saesneg: The Quar)
  • Eglwys Babyddol y Santes Fair, Pontmorlais

Chwaraeon[golygu | golygu cod]

Lleolir Bikepark Wales, parc beicio mynydd priodol cyntaf Prydain, ym Merthyr.[10] Mae Clwb pêl-droed yn y dref sydd wedi ei leoli ym Mharc Penydarren yn ardal Abermorlais. Ar hyn o bryd, mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair De Lloegr, y seithfed lefel yn system genedlaethol pêl-droed Lloegr. Cafwyd un o ganlyniadau mwyaf enwog y clwb yn 1987, wrth iddynt guro Atalanta o'r Eidal 2-1 ym Mharc Penydarren yn rownd gyntaf cwpan enillwyr cwpanau Ewrop.

Yr iaith Gymraeg[golygu | golygu cod]

Yn ôl Cyfrifiad 1891 roedd 68.4% o boblogaeth Merthyr, sef 75, 067 allan o gyfanswm o 110, 569, yn siarad Cymraeg.[11] Erbyn Cyfrifiad 1911, disgynnodd y ffigur hwn i 50.9%, sef 37,469 o gyfanswm o 74,596 (ibid.). Dengys ffigyrau Cyfrifiad 2011 fod 8.9% o boblogaeth Merthyr yn siarad Cymraeg erbyn hyn.[12] Mae Canolfan a Theatr Soar wedi ei lleoli yng nghanol y dref, ac yn gartref i'r iaith Gymraeg a'r celfyddydau yn y dref. Mae'r ganolfan hefyd yn gartref i Gaffi Soar a Siop Lyfrau'r Enfys.

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Merthyr Tudful ym 1881 a 1901. Am wybodaeth bellach gweler:

Enwogion[golygu | golygu cod]

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 24 Rhagfyr 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-24.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008
  6. 6.0 6.1 "Radicaliaieth a Phrotest 1810-1848" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 7 Mawrth 2020.
  7. "Repository - Hwb". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-04-07.
  8. Farmer, David Hugh. (1978). "Tydfil". In The Oxford Dictionary of Saints.
  9. Geiriadur Prifysgol Cymru, vol. III, tudalen 2436.
  10. http://www.bikeparkwales.com/
  11. Edwards, Hywel Teifi (2001). "Pennod 4: Yr Eisteddfod Genedlaethol ym Merthyr Tudful 1881 ac 1901". In Edwards, Hywel Teifi. Merthyr a Thaf. Gwasg Gomer. tud. 100–110. ISBN 1 84323 025 9
  12. http://www.comisiynyddygymraeg.org/Cymraeg/Cymorth/dataacystadegau/Pages/Cyfrifiad2011canlyniadauanewidiadauer2001.aspx/ Archifwyd 2014-05-21 yn y Peiriant Wayback.. Gwefan Comisiynydd y Gymraeg. Adalwyd Ebrill 2014

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]