Menna Gallie

Oddi ar Wicipedia
Menna Gallie
Ganwyd18 Mawrth 1919 Edit this on Wikidata
Ystradgynlais Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mehefin 1990 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
PriodWalter Bryce Gallie Edit this on Wikidata

Nofelydd o Ystradgynlais oedd Menna Patricia Humphreys Gallie (19201990).

Ganwyd Gallie yn 1920 ym mhentre glofaol Ystradgynlais yng Nghwm Tawe, ac fe'i magwyd yno, ac wedi hynny yng Nghreunant. Siaradai ei rhieni Gymraeg, ei thad yn grefftwr o ogledd Cymru a'i mam yn ddynes leol. Graddiodd yn 1940 o Brifysgol Cymru Abertawe ac yn yr un flwyddyn priododd Bryce Gallie, Albanwr oedd yn darlithio mewn athroniaeth yn Abertawe. Buont yn byw mewn gwahanol fannau yn dilyn diwedd y rhyfel yn cynnwys Gogledd Iwerddon, America a Chaergrawnt. Symudasant yn ôl i Gymru yn 1978, i Drefdraeth yn Sir Benfro. Ysgrifennodd chwe nofel, tair ohonynt, Strike for a Kingdom (1959), The Small Mine (1962), a Travels with a Duchess (1969), wedi eu lleoli yn ne Cymru, ac wedi eu hailgyhoeddi gan Honno. Bu hefyd yn gyfrifol am gyfieithu'r nofel Un Nos Ola Leuad/Full Moon (1973) i'r Saesneg.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Strike for a Kingdom (1959)
  • Man's Desiring (1960)
  • The Small Mine (1962)
  • Travels with a Duchess (1968)
  • You're Welcome to Ulster! (1970)



Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Menna Gallie ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.