Albwm début y band pop-electronig Clinigol yw Melys. Rhyddhawyd yr albwm ar 25 Mai 2010 yng Nghymru ac ar 5 Mehefin 2010 yn fyd-eang. Mae'r albwm yn cynnwys gwestai arbennig fel Margaret Williams, Siwan Morris, Heather Jones, Cofi Bach, Bleed Electric a mwy. Gweithiodd Clinigol yn bennaf gyda Screamadelica Studios, stiwdio Saesneg, i gynhyrchu'r albwm. Crëwyd clawr yr albwm gan Screamadelica Studios a gweithiodd y stiwdio gyda'r band i wneud cerddoriaeth a oedd yn apelio at bobl nad oed yn gallu deall Cymraeg.[1] Cafodd yr albwm ei ryddhau yn yr UD ar 5 Mehefin 2009 hefyd.[2]