Melyngoch plaen

Oddi ar Wicipedia
Helicoverpa armigera
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Noctuidae
Genws: Helicoverpa
Rhywogaeth: H. armigera
Enw deuenwol
Helicoverpa armigera
(Hübner, 1805)
Cyfystyron
  • Chloridea armigera Hübner,
  • Chloridea obsoleta Duncan & Westwood, 1841
  • Helicoverpa commoni Hardwick, 1965
  • Helicoverpa obsoleta Auctorum,
  • Heliothis armigera Hübner, 1805
  • Heliothis conferta Walker, 1857
  • Heliothis fusca Cockerell, 1889
  • Heliothis pulverosa Walker, 1857
  • Heliothis rama Bhattacherjee & Gupta, 1972
  • Heliothis uniformis Wallengren, 1860
  • Noctua armigera Hübner, [1805]
  • Noctua barbara Fabricius, 1794[1]

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw melyngoch plaen, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy melyngochion plaen; yr enw Saesneg yw Old World Bollworm (neu corn earworm), a'r enw gwyddonol yw Helicoverpa armigera.[2][3] Fe'i ceir yn Ewrop, rhannau o Asia, Affrica, Awstralia ac Oceania.

O'r ochr
O'r top
O'r gwaelod

30–40 mm ydy lled ei adenydd ar eu heithaf.

Prif fwy y siani flewog ydy planhigion tomato, cotwm a phys a ffa o bob math.

Caiff ei gyfri'n bla mewn caeau cotwm. Gall ddodwy cannoedd o wyau bychain ar yr un pryd. Ni ddylid ei gymysgu gyda Helicoverpa zea, sydd ag enw gwyddonol tebyg.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r melyngoch plaen yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Pest Risk Analysis.
  2.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  3. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.