Melverley

Oddi ar Wicipedia
Melverley
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Amwythig
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.7333°N 2.9833°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04011314, E04008428 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ333165 Edit this on Wikidata
Map

Pentref bychan a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Melverley[1] (Cymraeg: Melwern).[2] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Saif y pentref ger y ffin â Powys, Cymru, ar gymer Afon Efyrnwy ag Afon Hafren. Gorwedd pentref bychan Melverley Green[3] fymryn i'r gogledd o Melverley ei hun.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 156.[4]

Mae Eglwys Sant Pedr yn Melverley yn adeilad ffrâm pren du a gwyn ar lan Afon Efyrnwy; dyma'r hynaf o dair enghraifft o eglwysi o'r fath yn Swydd Amwythig. Ailadeiladwyd yr eglwys yn 1406 ar ôl iddi gael ei llosgi'n ulw yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr. Credir fod cynllun Eglwys Pedr Sant wedi ysbrydoli cynllun Eglwys Esgobol Sant Andreas yn Newcastle, Maine.

Eglwys Sant Pedr

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Melverley", British Place Names; adalwyd 15 Ebrill 2021
  2. Geiriadur yr Academi, s.v. "Melverley"
  3. "Melverley Green", British Place Names; adalwyd 15 Ebrill 2021
  4. City Population; adalwyd 15 Ebrill 2021