Meleri Wyn James

Oddi ar Wicipedia
Meleri Wyn James
Ganwyd1900 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Awdur Cymraeg ydy Meleri Wyn James (ganwyd 20 Mehefin 1970). Cafodd ei geni yn Llandeilo. Magwyd yn Beulah ger Castell Newydd Emlyn a mynychodd Ysgol Beulah, Ysgol Aberporth ac Ysgol Uwchradd Aberteifi cyn mynd i Brifysgol Aberystwyth.[1]

Enillodd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Taf-Elái yn 1991, cyhoeddwyd y gyfrol hon pan oedd ond yn 20 oed. Enillodd hi'r Fedal Ryddiaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2023.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Mwydyn yn yr Afal (Urdd Gobaith Cymru, 1991) – cyfrol enillydd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Taf-Elái 1991
  • Stripio (Y Lolfa, 1994)
  • Diwrnod Da o Waith (Y Lolfa, 1999)
  • Gwendolin Pari P.I., Nofelau Nawr (Gwasg Gomer, 2001)
  • Catrin Jones yn Unig (Gwasg Gomer, 2001)
  • Catrin Jones a'i Chwmni (Gwasg Gomer, 2001)
  • Tipyn o Gamp 1, Cyfres Hoff Straeon (Gwasg Gomer, 2003)
  • Stori a Mwy (Gwasg Gomer, 2003)
  • Gwenynen Bigog (Gwasg Gomer, 2003)
  • Tipyn o Gamp 2 (Gwasg Gomer, 2003)
  • Mrch Dd@, Cyfres Whap! (Gwasg Gomer, 2005)
  • Y We, Cyfres i'r Byw (Gwasg Gomer, 2005)
  • Wyneb Rwber, Cyfres i'r Byw (Gwasg Gomer, 2005)
  • St@fell, Cyfres Whap (Gwasg Gomer, 2005)
  • Parti Ann Haf, Stori Sydyn (Gwasg Gomer, 2006)
  • Rhyfel Cartre, Cyfres Lleisiau (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2006)
  • Hlo Bri@n! :), Cyfres Whap! (Gwasg Gomer, 2006)
  • Fyny Lawr (Gwasg Gomer, 2006)
  • Dw i Eisiau Bod yn Enwog (Atebol, 2010)
  • Na, Nel! (Y Lolfa, 2014)
  • Na, Nel!: Ha, ha! (Y Lolfa, 2015)
  • Na, Nel!: Ho, ho! (Y Lolfa, 2015)
  • Na, Nel!: Aaaa! (Y Lolfa, 2016)
  • Na, Nel!: Shhh! (Y Lolfa, 2016)
  • Dyddiadur Nel (Y Lolfa, 2017)
  • Na, Nel!: Wps! (Y Lolfa, 2017)
  • Na, Nel!: Ha, Ha! (Y Lolfa, 2017)
  • Na, Nel!: Un Tro (Y Lolfa, 2018)

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  1. Taflen Adnabod Awdur[dolen marw] Cyngor Llyfrau Cymru
  2. "Meleri Wyn James from Aberystwyth wins Eisteddfod prose medal". North wales Chronicle (yn Saesneg). 10 Awst 2023. Cyrchwyd 11 Awst 2023.
Coladwyd y llyfryddiaeth oddi ar gwales.com


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.