Meinir Gwilym
Oddi ar Wicipedia
Cantores a chyflwynwraig radio Gymreig ydy Meinir Elin Gwilym (ganed 31 Mawrth 1983). Cafodd Meinir ei magu yn Llangristiolus, Ynys Môn.
Rhyddhaodd ei halbwm cyntaf, Smôcs, Coffi a Fodca Rhad yn 2002. Erbyn hyn mae wedi rhyddhau pedair albwm, i gyd ar label Gwynfryn Cymunedol
Mae’n "gyflwynydd o'r gogledd" ar raglen ddyddiol 'Wedi 7' ar S4C. Mae ei chyfnither Lowri Mair Jones hefyd yn gantores boblogaidd.
Disgograffeg [golygu]
- Smôcs, Coffi, a Fodca Rhad (2002)
- Dim Ond Clwydda (2003)
- Sgandal Fain (2005)
- Tombola (2008)