Mei Matsuoka

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Darlunydd ac awdures llyfrau plant Japaneaidd-Seisnig yw Mei Matsuoka (ganwyd 27 Mawrth 1981).[1]

Bywgraffiad[golygu]

Ganwyd Matsuoka yn Suginami-ku,[2] Tokyo, Japan, treuliodd Matsuoka ei phlentyndod cynnar yno cyn symyd i Loegr pan oedd yn 11 oed, gan setlo yn y Cotswolds.[3]

Graddiodd o Brifysgol Kingston gyda BA Anrhydedd mewn Darlunio. Ers hynny mae hi wedi bod yn gweithio fel darlunydd llawrydd, gan arbenigo mewn llyfrau plant.[3]

Ysgrifennodd a darluniodd Matsuoka Ten-san, Kame-san and Muri-san go on a Journey, ac enillodd gystadleuaeth blynyddol yr "'Aozora' Environmental Picture Book". Enillodd Burger Boy gan Alan Durant wobr "Portsmouth Children's Book" ym mis Ionawr 2007.

Ysgrifennodd a darluniodd Matsuoke ei llyfr Footprints in the Snow, a gyhoeddwyd gan Andersen Press yn 2007. Ymddangosodd y llyfr ar restr fer "Read it Again! The Cambridgeshire Children's Picture Book Awards" ym mis Rhagfyr 2007. Ym mis Ionawr 2008, ymddangosodd y llyfr ar restr hir "Big Pictures's "Best New Illustrator Award" y Booktrust. Mae Footprints in the Snow hefyd wedi cael ei enwebu ar gyfer Medal Kate Greenaway 2009.

Cyfieithwyd Footprints in the Snow i'r Gymraeg, ac fe'i gyhoeddwyd gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion o dan y teitl Olion yn yr Eira, a roedd yn ddegfed ar restr Cyngor Llyfrau Cymru o werthwyr gorau plant ym mis Medi 2007.[4]

Gwaith[golygu]

Ffynonellau[golygu]

  1.  About me.... Gwefan swyddogol.
  2.  SCBWI Tokyo Newsletter (Gaeaf 2007).
  3. 3.0 3.1  Mei Matsuoka. Booktrust Children's Books.
  4.  Llais Llên: Rhestr Cyngor Llyfrau Cymru o'r llyfrau sy'n gwerthu orau. BBC Cymru (Medi 2007).

Dolenni allanol[golygu]