Mawrth (planed)
Oddi ar Wicipedia
| Symbol | ♂ | ||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Nodweddion orbitol | |||||||
| Pellter cymedrig i'r Haul | 1.52 US | ||||||
| Radiws cymedrig | 227,936,640km | ||||||
| Echreiddiad | 0.09341233 | ||||||
| Parhad orbitol | 779.95d | ||||||
| Buanedd cymedrig orbitol | 24.1309 km s-1 | ||||||
| Gogwydd orbitol | 1.85061° | ||||||
| Nifer o loerennau | 2 | ||||||
| Nodweddion materol | |||||||
| Diamedr cyhydeddol | 6792.4 km | ||||||
| Arwynebedd | 1.44×108km2 | ||||||
| Más | 6.4191×1023 kg | ||||||
| Dwysedd cymedrig | 3.94 g cm-3 | ||||||
| Disgyrchiant ar yr arwyneb | 3.71 m s-2 | ||||||
| Parhad cylchdro | 24.6229a | ||||||
| Gogwydd echel | 25.19° | ||||||
| Albedo | 0.15 | ||||||
| Buanedd dihangfa | 5.02 km s-1 | ||||||
| Tymheredd ar yr arwyneb: |
|
||||||
| Nodweddion atmosfferig | |||||||
| Gwasgedd atmosfferig | 0.7-0.9kPa | ||||||
| Carbon deuocsid | 95.32% | ||||||
| Nitrogen | 2.7% | ||||||
| Argon | 1.6% | ||||||
| Ocsigen | 0.13% | ||||||
| Carbon monocsid | 0.07% | ||||||
| Anwedd dŵr | 0.03% | ||||||
| arlliw | |||||||
Mawrth yw'r bedwaredd blaned oddi wrth yr Haul. Mewn rhai ffyrdd y mae'n debyg i'r Ddaear: mae iddi ddiwrnod 24 awr ac mae'r tymhorau rhywbeth yn debyg, ac mae ganddi begynnau iâ. Ar y llaw arall prin bod y tymheredd yn codi dros y rhewbwynt ac mae'r awyr yn denau iawn heb fawr o ocsigen. Mae gan Mawrth ddau leuad neu loeren, sef Phobos a Deimos.
[golygu] Bywyd
Ers canrifoedd mae seryddwyr wedi awgrymu bod bywyd yn bodoli ar y blaned. Yn 1877 cyhoeddodd y seryddwr Giovanni Schiaparelli ei ddarganfyddiad o gamlesi ar y blaned; cafodd yr adroddiad ei gadarnhau gan seryddwyr eraill. Roedd optegau, fodd bynnag, yn sylfaen iawn ar y pryd, ac mae'n debyg bod hyn yn enghraifft o dwyll llygaid.
Yn 1976 anfonodd NASA ddau chwiliedydd gofod, sef Viking 1 a Viking 2, i'r blaned. Glaniodd y ddau ar y blaned, a chafodd arbrofion eu gwneud ar y pridd i chwilio am ficro-organebau, ond roedd y canlyniadau yn amhendant. Yn ddiweddar, fodd bynnag, mae chwiliedyddion wedi darganfod methan yn yr awyr, arwydd sydd, efallai, yn awgrymu bod micro-organebau yn goroesi hyd heddiw o dan y pridd.
[golygu] Fforio Mawrth
Ers yr 1990au ar ôl mwy na degawd ers ei berwyl olaf i'r blaned, penderfynodd NASA wneud fforio Mawrth. Roedd Mars Observer, a lansiwyd ym 1992, yn gais i roi chwiliedydd mewn orbit, ond methodd cyn cyrraedd. Roedd Mars Pathfinder, a lansiwyd ym 1996, yn fwy llwyddiannus; glaniodd y chwiliedydd ar y blaned, a llwyddodd i ddanfon lluniau o wyneb y blaned am y tro cyntaf ers yr 80au cynnar yn ôl i'r Ddaear. Erbyn hyn, mae dau chwiliedydd yn weithredol ar wyneb y blaned, Spirit ac Opportunity; mae tri arall yn cylchu'r blaned, yn monitro tywydd y blaned ac yn dychwelyd data eraill. Mae cynllun ar y gweill i anfon chwiliedydd i Fawrth gyda'r bwriad o ddychwelyd pridd Mawrthaidd yn ôl i'r Ddaear rywbryd yn y 2010au.
[golygu] Cyfeiriad
- 'New light on Mars methane mystery', BBC, 15 Ionawr 2009. http://news.bbc.co.uk/1/hi/sci/tech/7829315.stm
|
Planedau: Mercher | Gwener | Y Ddaear | Mawrth | Iau | Sadwrn | Wranws | Neifion |

