Mauretania (llong 1906-35)

Oddi ar Wicipedia
RMS Mauretania
Cerdyn post Mauretania o 1908

Chwaer-long yr RMS Lusitania oedd yr RMS Mauretania, y gyntaf o ddwy long deithio i ddwyn yr enw. Fe'i henwir ar ôl y dalaith Rufeinig Mauretania yng ngogledd Affrica.

Adeiladwyd y Mauretania gyntaf yn 1906 yn iardau Swan, Hunter & Wigham Richardson, Newcastle upon Tyne, gogledd-ddwyrain Lloegr. Roedd ganddi hyd o 790 troedfedd a lled trawst o 88 troedfedd. Roedd y llong yn pwyso 31,938 tunnell ac yn cael ei gyrru gan bedwar siafft tyrbein ag iddynt nerth o 76,000 hp. Gallai gyrraedd cyflymder o 25 knot ar y môr agored.

Ar ei byrddau roedd ganddi le i 563 teithiwr dosbarth cyntaf, 464 ail dosbarth a 1,138 trydydd dosbarth; fel llong i gludo milwyr roedd ganddi ddigon o le i 4,000 o filwyr.

Fel ei chwaer-long y Lusitania, cafodd y Mauretania ei lawnsio yn 1906. Gwnaeth ei mordaith gyntaf yn 1907 o Lerpwl i Ddinas Efrog Newydd. Gyda'r Lusitania, hi oedd y llong deithio gyflym gyntaf i gael ei hadeiladu yng ngwledydd Prydain yn yr 20g. Enillodd y Ruban Glas ym mis Medi, 1909, diolch i'w tyrbeins grymus a'i chynllun uchelgeisiol.

Gwasanaethai fel llong i gludo milwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan ddychwelyd i'r rhediad traws-Iwerydd ar ddiwedd y rhyfel ar ôl cael ei hatgyeirio'n sylweddol yn sgîl tân trychinebud yn 1921.

Cafodd ei sgrapio yn 1935 yn iard dorri Rosyth, yn yr Alban.