Matthew Rhys
| Matthew Rhys | |
|---|---|
Matthew Rhys yng Ngwobrau GLAAD 2007 |
|
| Ganwyd | 4 Tachwedd, 1974 Caerdydd, |
| Yn enwog am | Brothers & Sisters, The Edge of Love |
| Galwedigaeth | Actor |
Actor Cymreig yw Matthew Rhys Evans sy'n fwy adnabyddus o dan ei enw proffesiynol Matthew Rhys (ganwyd 4 Tachwedd[1] neu'r 8 Tachwedd,[2][3]1974, Caerdydd). Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Kevin Walker yn y ddrama deledu Americanaidd Brothers & Sisters, ac fel Dylan Thomas yn y ffilm The Edge of Love. Mae'n gyn-ddisgybl o Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.
Cynnwys |
Ei gysylltiadau â Phatagonia [golygu]
Yn y flwyddyn 2000, ymwelodd Rhys â Phatagonia er mwyn darganfod capeli Cymreig ac er mwyn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad gan drigolion y wlad.[4] Tra yno, cafodd afael ar gopi o ddyddiadur y Cymro John Murray Thomas a aeth i Batagonia ar ddiwedd y 19eg ganrif wrth i nifer o Gymry allfudo i Batagonia. Yn 2005 dychwelodd Rhys i Batagonia am yr eildro ar ôl iddo dderbyn gwahoddiad wrth ddisgynyddion y Rifleros i olrhain y daith a wnaed gan y Cymry flynyddoedd ynghynt.
Yn 2010, cyhoeddodd lyfr lluniau "Patagonia: Croesi'r Paith" yn seiliedig ar y profiad.
Ffilmiau [golygu]
- Titus (1999)
- Very Annie Mary (2001)
- The Abduction Club (2002)
- Fakers (2004)
- The Edge of Love (2008; fel Dylan Thomas)
Teledu [golygu]
- The Lost World (2001)
- The Mystery of Edwin Drood (2012)
- The Scapegoat (2012)
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gwefan y BBC Adalwyd ar 31-10-2010
- ↑ Download Brothers and Sisters Episodes Adalwyd ar 31-10-2010
- ↑ Matthew Rhys yn IMDb Adalwyd ar 31-10-2010
- ↑ Matthew Rhys’ new book, ‘Patagonia gets under your skin’ Wales Online. 20-11-2010. Adalwyd ar 04-12-2010