Mason Ryan

Oddi ar Wicipedia
Mason Ryan
A Mason Ryan wedi ennill Pencampwriaeth Pwysau Trwm Florida yn 2010.
Mason Ryan wedi ennill Pencampwriaeth Pwysau Trwm Florida yn 2010.'.

Enwau Mewn Reslo:

  • Barri Griffiths[1]
    Hercules[2][3]
    Mason Ryan[3]
    Smackdown Warrior[2]
  • Hercules
  • Mason Ryan
  • Smackdown Warrior
  • Celtic Warrior

Pwysau: 20 car. (280 pwys; 127 kg)

Taldra â Ddywedwyd: 6 tr 5 mod (1.96 m)[3][4]

Pwysau â Ddywedwyd: 289 pwys (131 kg)[5]

Geni: 13 Ionawr 1982[4] Tremadog, Cymru[3]

Yn dod o: Caerdydd, Cymru[6]

Hyfforddwyd gan:

Ymddangosiad gyntaf: 2007[7]

Mae Barri Griffiths (ganwyd 13 Ionawr 1982) yn ymgodymwr proffesiynol Cymreig ac yn gyn-gystadleuydd ar y gyfres deledu Gladiators. Mae o hefyd yn cael ei adnabod fel Goliath a hefyd drwy ei enw llwyfan sef Mason Ryan. Mae o wedi cael ei arwyddo i’r WWE, lle mae o’n ymgodymu i’r brand Raw. Roedd o'n aelod o’r grŵp The Nexus. Mae o hefyd yn cystadlu yn Florida Championship Wrestling (FCW), un o diriogaethau datblygu WWE.[5]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Fe wnaeth Griffiths fynychu Ysgol gynradd y Gorlan yn Nhremadog, Cymru ac Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog, cyn astudio rheoli adeiladaeth ym Mhrifysgol Caerdydd am 18 mis.[6][8] Roedd Griffiths yn gweithio fel hyfforddai saer coed, ac ym musnes trefnwyr angladdau ei deulu cyn mynd yn ymgodymwr proffesiynol.[2][3] Mae ganddo chwaer.[8] Roedd Griffiths yn chwarae fel amddiffynnwr canol i Glwb Pêl Droed Porthmadog a oedd chwarae yn Uwchgynghrair Cymru ar y pryd. Ond bu rhaid iddo roi’r gorau i bêl-droed oherwydd anaf i'w ben-glin.[9]

Gladiators[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd Griffiths ar ail gyfres o raglen deledu Gladiators yn 2009, ac fe gystadlodd dan yr enw “Goliath”.[4] Yn ystod ei amser ar raglen deledu ymgodymu yng Nghymru, dywedwyd wrtho fod cynyrchywyr yn chwilio am gladiatoriaid newydd, a ymgeisiodd gydag anogaeth ei hyfforddwr, Orig Williams.[2][9] Dechreuwyd ffilmio'r sioe gyntaf tua mis wedyn ac roedd rhaid iddo dyfu barf yn arbennig i’r rôl.[2][8]

Gyrfa ymgodymu proffesiynol[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Griffiths ymarfer i fod yn ymgodymwr proffesiynol yn 2006 ar ôl mynychu sioe ymgodymu gyda ffrind lle awgrymodd hyrwyddwr iddo ddechrau ymgodymu.[2][7][8] Fe wnaeth ymarfer mewn ysgol ymgodymu proffesiynol ym Mhenbedw.[2][7] Cyn ymddangos ar Gladiators, ymgodymodd Griffiths o dan yr enwau “Celtic Warrior” a “Smackdown Warrior”. Cystadlodd mewn bron i 100 o frwydrau mewn gwledydd yn cynnwys yr Aifft a Feneswela.[2] Fe wnaeth cynrychioli y DU mewn gornest tîm tag ‘brwydr y cenhedloedd’ rhwng y DU ac Awstria, roedd yn yr un tîm â Drew McDonald a Sheamus O’Shaunessy, ond fe gollwyd yr ornest i Chris Raaber, Michael Kovac, a Robert Ray Kreuzer. Cafodd yr ornest ei gynnal yn sioe Night of Gladiators y Gymdeithas Ymgodymu Ewropeaidd (European Wrestling Association) ym Mehefin 2007.[10] Ar ôl arwyddo i’r WWE, cafodd Griffiths ei sioe derfynol yn Y Ganolfan ym Mhorthmadog, Cymru yn Hydref 2008, lle wnaeth ennill gornest senglau, cyn ennill brwydr frenhinol (Battle Royal).[11].

World Wrestling Entertainment / WWE[golygu | golygu cod]

Florida Championship Wrestling (2009-2011)[golygu | golygu cod]

Yng nghanol 2009, fe wnaeth Griffiths arwyddo cytundeb pum mlynedd gyda’r WWE.[12] Pan gafodd ei deitheb waith, ymddangosodd yn gyntaf yn ei diriogaeth datblygu, Florida Championship Wrestling (FCW) yn Ionawr 2010.[3] O dan yr enw Mason Ryan, fe wnaeth gystadlu yn erbyn ymgodymwyr yn cynnwys Johnny Curtis, Tyler Reks, Johnny Prime, a Hunico yn ei frwydr gyntaf.[1]

Ar y 22 o Orffennaf, enillodd Ryan ornest bygwth drebl yn erbyn y pencampwr Alex Riley a Johnny Curtis drwy binio Riley i ennill y Bencampwriaeth Pwysau Trwm Florida (FCW Florida Heavyweight Championship) am y tro cyntaf.[3][7][13] Dros y misoedd nesaf, amddiffynnodd Ryan ei bencampwriaeth yn llwyddiannus yn erbyn ymgodymwyr yn cynnwys Bo Rotundo, Rhichie Steamboat, ac Eli Cottonwood.[14] Ar yr 2 o Fedi, amddiffynnodd Ryan ei bencampwriaeth yn llwyddiannus yn erbyn Johnny Curtis pan ymyrrodd sylwebydd FCW, Byron Saxton a’i helpu.[14] Yn yr wythnos ganlynol, hebryngodd Saxton Ryan i’r cylch ymgodymu ag actiodd fel ei hyfforddwr.[14] Yn Nhachwedd 2010, ymddangosodd Ryan ar daith gyda’r brand Smackdown i Ewrop, yn ennill Chavo Gurrero mewn brwydrau tywyll ym Melffast ar 4 Tachwedd, yn Lerpwl ar y 6 o Dachwedd ac ym Manceinion ar y 8 o Dachwedd cyn sioe Raw Dydd Llun.[15][16] Ar y 3 o Chwefror 2011, fe wnaeth Ryan golli'r Bencampwriaeth Pwysau Trwm Florida i Bo Rotundo, yn rhoi ben i deyrnasiad chwe mis a hanner.[17]

Y Nexus Newydd (2011)[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd Griffiths ar y teledu am y tro cyntaf ar y 17 o Ionawr ar episod o Raw drwy ymyrryd ar ornest CM Punk a John Cena. Yn dilyn yr ymyriad, fe wnaeth Punk gyflwyno iddo rwymyn braich ‘Nexus’, yn anwytho fo i mewn i’r grŵp.[12][18] Cymerodd Ryan ran yn yr ornest Royal Rumble 2011, ond cafodd ei waredu gan Cena.[19] Ar y 7 o Chwefror, fe gafodd Ryan ei ornest gyntaf ar Raw lle wnaeth golli i R-Truth trwy gael ei anghymhwyso.[20] Ar ddiwedd mis Chwefror, cafodd ei gyhoeddi fod Punk am fynd yn erbyn Randy Orton yn WrestleMania XXVII, gyda phob aelod o’r Nexus yn mynd yn erbyn Orton yn y wythnosau yn arwain i WrestleMania i ennill yr hawl i hebrwng Punk i’r cylch reslo. Ryan oedd yr olaf o’r aelodau i fynd yn erbyn Orton, ond fe gollodd ar yr episod Mawrth 14 o Raw. Yn dilyn y gornest, rhoddodd Orton gig mawr caled i ben Ryan.

Roedd Ryan yn absennol o’r teledu am bron i fis, yn dychwelyd ar y 11 o Ebrill ar Raw gydag aelodau eraill o’r Nexus, yn ymosod ar Orton ac yn ei rwystro rhag cael gornest am bencampwriaeth yr WWE.

Ar episod 2 o Fai o Raw, collodd Ryan ornest yn erbyn Kane drwy gael ei anghymhwyso yn dilyn ymyrraeth gan Punk, ac fe aeth i ymosod ar Kane a The Big Show. Wedi hynny aeth allan o’r cylch ymgodymu heb ddathlu gydag aelodau eraill y Nexus. Yn yr ornest talu-wrth-wylio Over the Limit ar y 22 o Fai, heriodd Ryan a Punk, Kane a The Big Show am y bencampwriaeth tîm tag WWE, ond ni lwyddodd hwy. Siantiodd y cefnogwyr a fynychodd y digwyddiad “Dave Batista” oherwydd y tebygrwydd mewn edrychiad rhwng Ryan a Batista.

Ar yr episod Power to the People o Raw ar y 20 o Fehefin, cafodd Ryan ei ddewis i fynd yn erbyn Evan Bourne, ac enillodd Ryan yr ornest. Fe wnaeth WWE ryddhau datganiad y diwrnod wedyn ar eu gwefan swyddogol yn dweud mai Sin Cara oedd enillydd iawn y pôl, ond roedd pleidleisiau neges destun o’r ornest ddiwethaf yn dal i ddod i mewn. Yr wythnos wedyn ar Raw, cyhoeddodd Michael Cole fod Ryan wedi cael ei anafu dros y penwythnos mewn sioe tŷ, ond roedd adroddiadau eraill ar y we yn dweud ei fod wedi cael ei anafu tu allan i’r cylch ymgodymu a bydd allan o ymgodymu am 6 wythnos ond gallai fod hyd at 6 mis.

Ymddangosodd Ryan yn y digwyddiad SummerSlam Axxess gydag aelodau o’r Nexus Newydd.

Dychwelyd i Raw[golygu | golygu cod]

Ar yr episod 8 o Fedi o WWE Superstars, dychwelodd Ryan i WWE, ac enillodd JTG. Ar episod 26 o Fedi o Raw cafodd Ryan ei ddewis gan Vickie Guerrero i fod yn bartner i Jack Swagger a Dolph Ziggler mewn gornest tag 6 dyn yn erbyn Zack Ryder ac Air Boom (Evan Bourne a Kofi Kingston). Yn yr ornest, ymosododd Ryan ar Swagger a Ziggler, a gadael i Ryder i ennill yr ornest i’w dîm, a hefyd yn troi wyneb yn y broses. Yn yr wythnos ganlynol ar Raw, ymunodd Ryan gydag Air Boom (Evan Bourne a Kofi Kingston), Sheamus, CM Punk a John Cena mewn gornest tag 12 dyn ag ennill Alberto Del Rio, Christian, Cody Rhodes, Dolph Ziggler, Jack Swagger a David Otunga. Dechreuodd gweryl gyda Dolph Ziggler, Jack Swagger a Vickie Guerrero yn y misoedd yn dilyn. Enilliodd gornest yn erbyn Dolph Ziggler ar episod arbennig o Raw (Raw Gets ROCKED) ar y 14 o Dachwedd ac enilliodd gornest arall yn yr un wythnos ar episod o Smackdown yn erbyn Jack Swagger. Ymddangosodd ar episod 8 o Ragfyr o WWE Superstars lle enilliodd Drew McIntyre.

Cyfryngau eraill[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd Griffiths ar The Paul O’Grady Show. Barri Griffiths: Y Reslar, rhaglen ddogfennol am fywyd Griffiths yn y misoedd cyn iddo symud i’r Unol Daleithiau, darlledwyd ym Medi ar S4C.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae Griffiths yn siarad Cymraeg. Mae ganddo hefyd chwaer. Mae o’n hoffi codi pwysau.

Mewn ymgodymu[golygu | golygu cod]

Symudiadau gorffennol[golygu | golygu cod]

•Rhac torri cefn Ariannin - FCW •Tŷ o boen (Clep sengl ochr)- 2010-2011 •Clep Trontol-pwmp - 2011 •Tyndroid nelson llawn yn codi a’i ollwng i glep – 2011-presennol

Hyfforddwyr[golygu | golygu cod]

•Orig Williams •Byron Saxton

Llysenwau[golygu | golygu cod]

•“Barri ten foot”

Cerddoriaeth mynedfa[golygu | golygu cod]

•“We Are One” gan 12 Stones (Defnyddiwyd pan yn rhan o’r Nexus) •“This Fire Burns” gan Killswitch Engage (Defnyddiwyd pan yn rhan o’r Nexus Newydd) Ionawr 2011 – Medi 2011 •“Here and Now or Never” (fersiwn offerynnol) gan The Heroes Lie (Medi 2011-presennol)

Pencampwriaethau a llwyddiannau[golygu | golygu cod]

•Florida Championship Wrestling

Pencampwriaeth Pwysau Trwm Florida (FCW Florida Heavyweight Championship)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2  Mason Ryan. Online World of Wrestling.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7  Gladiator in hot pants trouble. Metro.co.uk (8 Ionawr 2009).
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 3.7  North Wales man crowned heavyweight champion wrestler of Florida (2 Awst 2010).
  4. 4.0 4.1 4.2  Goliath, Barri Griffiths. Gladiator Zone.
  5. 5.0 5.1  Mason Ryan. World Wrestling Entertainment.
  6. 6.0 6.1 Hughes, Owen R (26 Ionawr 2011). "Gwynedd WWE star Barri Griffiths billed as from Cardiff". Daily Post. Cyrchwyd 30 Ionawr 2011.
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4  Barri wrestles with rise to fame (5 Awst 2010).
  8. 8.0 8.1 8.2 8.3  Meet North Wales’ very own Gladiators (11 Awst 2010).
  9. 9.0 9.1  Welsh duo are TV gladiators. Wales Online (4 Ionawr 2009).
  10.  EWA Results. European Wrestling Association.
  11.  North Wales wrestler Barri Griffiths off to the USA (28 Hydref 2008). [dolen marw]
  12. 12.0 12.1  Welsh wrestler Mason Ryan is a stateside hit. BBC (20 Ionawr 2011).
  13.  Florida Championship Wrestling roster. Florida Championship Wrestling.
  14. 14.0 14.1 14.2  Florida Championship Wrestling (2010). Online World of Wrestling.
  15.  11/4 WWE Results: Belfast, Northern Ireland. WrestleView (5 Tachwedd 2010).
  16.  11/6 WWE Results: Liverpool, England. WrestleView (7 Tachwedd 2010).
  17.  Champions Roll Call. Florida Championship Wrestling.
  18.  RAW: The Rumble and The Nexus grow. Slam! Sports. Canadian Online Explorer (17 Ionawr 2011).
  19.  Super-size Royal Rumble saves biggest surprise for last. Slam! Sports. Canadian Online Explorer (30 Ionawr 2011).
  20.  RAW: Punk, Nexus battle Elimination Chamber entrants. Slam! Sports. Canadian Online Explorer (7 Chwefror 2011).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: