Mary Vaughan Jones (naturiaethwraig)

Oddi ar Wicipedia
Mary Vaughan Jones
GanwydTachwedd 1917 Edit this on Wikidata
Waunfawr Edit this on Wikidata
Bu farwEbrill 2002 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbiolegydd, athro Edit this on Wikidata

Naturiaethwraig, biolegydd, athrawes a hanesydd oedd Mary Vaughan Jones (Tachwedd 1917 – Ebrill 2002).[1][2]

Polimath oedd Mary, yn ymddiddori ym mhob agwedd o'i bywyd, ei bro a'i byd, boed yn fywyd gwyllt, yr Eisteddfod, eisteddfodau, ei disgyblion yn Ysgol Brynrefail, amaethyddiaeth, hanes, archaeoleg, teithio. Ymddiddorai mewn ystod eang o feysydd, a dyma oedd efallai pam nad yw'n amlwg y tu allan i'w milltir sgwâr. Petai diddordebau Meri yn llai eang byddai'n yn sicr o fod wedi gwneud mwy o farc yn y byd, ond byddai wedi bod yn llawer llai o ysbrydoliaeth i bobl ei bro! Gwelodd y cysylltiadau rhwng y gwahanol feysydd a gellir ei disgrifio fel gwraig Yr Oleuedigaeth.

Magwraeth ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Mary Vaughan Parry yn 1917 ac fe'i magwyd yn un o ddau o blant ym Mhlas Glanrafon, rhwng Waunfawr, Caeathro a Bontnewydd, yn hen blwyf Llanbeblig.

Aeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio ecoleg (daearyddiaeth a bywydeg) o dan yr Athro Harry Godwin, arloeswr y dull o hel gwybodaeth am hanes llystyfiant yn y mawn ers Oes yr Iâ, trwy adnabod gronynnau o baill. Bu'n cynorthwyo yn y gwaith hwn ar Gors Fochno (neu'r 'Fign' fel y'i gelwid yn lleol).

Ar ôl graddio cafodd waith fel athro bywydeg yn Ysgol Brynrefail a bu yno tan ei hymddeoliad.

Y naturiaethwr[golygu | golygu cod]

Goroesodd un o'i choflyfrau cynnar (o 1949), math o 'gopi-bwc' ysgol a sgwennodd yn ei harddegau cynnar; yma cofnodi amseroedd cynharaf y gwahanol rywogaethau o adar ganu yn y gwanwyn a pha un oedd yr olaf ar ei draed cyn tywyllu.

Mae'n debyg bod gwyddoniaeth "côr y wig" yn beth ffasiynol ac arloesol i'w astudio yr oes honno yn enwedig gan naturiaethwyr brwd Lloegr (roedd Meri wedi gludo adroddiad o arolwg tebyg o Gaergrawnt yn y llyfr gyda gair o anogaeth gan yr awdur. Mwy annisgwyl efallai oedd y ffaith bod y ferch ifanc hon, ym mherfeddion cefn gwlad Arfon, mewn cyfnod pan oedd Methodistiaeth caeth yn gryf o hyd, wedi meddu ar y chwilfrydedd i dorri allan o fowld ei hoes a dilyn ei chŵys naturiol ar ei liwt ei hun. Nid yn unig hynny, ond fe ymddengys iddi fynd gam ymhellach na'i mentor o Gaergrawnt, a gwneud yr un cyfrif tu chwith fel petai, a mesur pa adar oedd y noswylwyr hwyraf o gwmpas ei chartref. Mae crynodeb o'r gwaith hwn ar dudalen 6 Bwletin Llen Natur rhifyn 93[3]

Saesneg oedd iaith y copi bwc - a 'dyw hynny ddim yn syndod efallai yn dilyn Prydeindod cyfnod y Rhyfel ac wedyn. Cymraeg yn ddi-ffael oedd iaith ei hysgrifen ffwrdd a hi bywiog ar dameidiau o bapurau bratiog o gyfnod hwyrach yn ei bywyd sydd ar gof a chadw yn Antur Waunfawr.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod a William Vaughan Jones (1906–1976), athro Mathemateg a dramodydd poblogaidd yn lleol.[4] Wedi marwolaeth ei gŵr, cafodd flas ar deithio'r byd.

Bu farw Meri yn Sbaen, ym mreichiau ei brawd, yn 2002 o'r angina y bu'n dioddef ohono ers blynyddoedd. Fe'i claddwyd ym mynwent hen eglwys Betws Garmon mewn arch mawr plastig pabyddol ei naws gyda cherfiad arian o Grist croeshoeliedig yn gorwedd ar y caead.

Pigion o'i phapurau[golygu | golygu cod]

Crogen (neu corn galw, conch)
Buasai JE yn gyfarwydd a swn y GROGEN yma. Galwyd y dynion o'r caeau pell o'r tŷ yn ôl am ginio a the etc gan alwad hon. Clywais fy nain yn ei "chwythu" lawer gwaith.
Storm 3 Mawrth 1965
Cawsom storm ofnadwy, chwythodd y gwyntoedd cryfion oer o'r dwyrain yr eira oddiar y mynyddoedd I'r gwaelodion. Caewyd y ffyrdd yn Sir Gaernarfon erbyn amser cinio. Claddwyd ceir wrth y cannoedd (ee Dyffryn Nanlle a Brynrefail dros nos) a charcharwyd plant ysgol a gweithwyr. Ond gwir yr hen ddywediad "Nid erys eira fis Mawrth fwy na menyn ar dwymyn dorth". Cyfraniad Mary Vaughan Jones i Lyfr Lloffion Jiwbili 1965, Sefydliad y Merched

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Dylan Iorwerth (24 Ebrill 2002). Daeth i ben deithio byd.. Western Mail.
  2.  Cofnod cyfarwyddwr yn Nhy'r Cwmniau. Ty'r Cwmniau. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2017.
  3. http://llennatur.com/files/u1/Cylchgrawn93.pdf[dolen marw]
  4.  Vaughan Jones, William, o Waunfawr, papurau (papers). Archif Gwynedd. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2017.