Marwolaeth Ian Tomlinson

Oddi ar Wicipedia
Marwolaeth Ian Tomlinson

Gwerthwr papurau newydd o Sais oedd Ian Tomlinson (7 Chwefror 1962 – 1 Ebrill 2009) fu farw yn Ninas Llundain ar ei ffordd adref o'i waith yn ystod protestiadau uwchgynhadledd yr G-20. Dynododd awtopsi y cafodd trawiad ar y galon a bu farw o achosion naturiol. Daeth ei farwolaeth yn ddadleuol wythnos wedyn pan gafodd The Guardian afael ar fideo yn ei ddangos yn cael ei fwrw ar ei goes o'r tu ôl gan swyddog yr heddlu yn dal batwn, ac yna'i wthio i'r llawr gan yr un heddwas. Ni ddangosodd y fideo unrhyw gythrudd ar ran Tomlinson–nid oedd yn brotestiwr, ac ar y pryd y cafodd ei fwrw roedd yn cerdded gyda'i ddwylo yn ei bocedi. Cerddodd i ffwrdd o'r man, ond cwympodd a bu farw funudau wedyn.

Ar ôl i The Guardian gyhoeddi'r fideo, dechreuodd Comiswn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) ymchwiliad troseddol. Dangosodd ail awtopsi y bu farw Tomlinson o waedu mewnol a achoswyd gan drawma anhreiddiol i'r abdomen, yn ogystal â sirosis yr afu, a dangoswyd hyn hefyd gan drydydd awtopsi a drefnwyd gan dîm amddiffyn y heddwas dan sylw. Datganodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yng Ngorffennaf 2010 ni fydd y heddwas, PC Simon Harwood, yn cael ei gyhuddo, gan nid oedd erlynyddion yn gallu dangos cyswllt achosol rhwng y farwolaeth a'r ymosodiad honedig oherwydd yr anghytundeb rhwng patholegwyr. Ym Mai 2011 rhoddodd rheithgor yr ymchwiliad ddyfarniad o ladd anghyfreithlon, gan ddyfarnu roedd y gwthiad a'r ergyd batwn yn rym afresymol a gormodol. Cyhoeddodd y CPS bydd adolygiad o'i benderfyniad i beidio ag erlyn a thair wythnos yn hwyrach datganodd y bydd Harwood yn cael ei gyhuddo o ddynladdiad. Plediodd Harwood yn ddi-euog yn Hydref 2011; bydd ei achos llys yn dechrau yn yr Hen Feili ym Mehefin 2012.

Sbardunodd marwolaeth Tomlinson ddadl yn y DU dros y berthynas rhwng yr heddlu a'r cyhoedd a welwyd i fod yn dirywio; i ba raddau y mae'r IPCC yn annibynnol ar yr heddlu; a rôl dinesyddion mewn monitro gweithredoedd yr heddlu a'r llywodraeth trwy sousveillance. Bu feirniadaeth o'r ymateb newyddion hefyd, gyda Boris Johnson, Maer Llundain, yn ei alw'n "orgy of cop bashing". Cymharwyd y digwyddiad i farwolaethau cynt oedd yn ymwneud â naill ai'r heddlu neu ymchwiliadau a honnir yn annigonol, megis marwolaethau Blair Peach (1979), Stephen Lawrence (1993), a Jean Charles de Menezes (2005), yr oeddent i gyd yn drobwyntiau mewn canfyddiad y cyhoedd o'r heddlu. Gan ymateb i bryderon y cyhoedd, cyhoeddodd Denis O'Connor, Prif Arolygwr yr Heddlu, adroddiad o 150 o dudalennau yn Nhachwedd 2009 a fwriedir i adfer model draddodiadol y DU o'r heddlu ar sail cydsyniad. Croesawodd The Guardian yr adroddiad fel cynllun am ddiwygio ar raddfa eang.