Market Bosworth
Cyfesurynnau: 52°37′26″N 1°24′06″W / 52.6239°N 1.4017°W
| Market Bosworth | |
|
|
|
| Poblogaeth | 1,906 |
|---|---|
| Swydd | Swydd Gaerlŷr |
| Rhanbarth | |
| Gwlad | Lloegr |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | NUNEATON |
| Cod deialu | 01455 |
| Yr Heddlu | |
| Tân | |
| Ambiwlans | |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Dwyrain Canolbarth Lloegr |
| Senedd y DU | Bosworth |
| Rhestr llefydd: y DU • Lloegr • | |
Tref fechan yn Swydd Gaerlŷr, Lloegr yw Market Bosworth. Fe'i lleolir yng ngorllewin Swydd Gaerlŷr tua hanner ffordd rhwng Tamworth a dinas Caerlŷr. Rhoddwyd siarter yn rhoi'r hawl i gynnal marchnad ynddi gan y brenin Edward I o Loegr yn 1285.
Mae'n adnabyddus yn bennaf am roi ei enw i Frwydr Maes Bosworth, y frwydr olaf yn Rhyfeloedd y Rhosynnau, a ymladdwyd ar 22 Awst 1485. Roedd gan y brenin Rhisiart III o Loegr fyddin gryn tipyn yn fwy na byddin Gymreig Harri Tudur, ond roedd amheuaeth ynghylch teyrngarwch llawer ohonynt. Cyfarfu'r ddwy fyddin ar safle ger Market Bosworth. Roedd tua 6,000 o wŷr dan Arglwydd Stanley a'i frawd, ac wedi iddynt wrthod ymuno a'r frwydr ar y dechrau, ymosodasant i gefnogi Harri Tudur. Lladdwyd Richard, a daeth Harri Tudur yn frenin fel Harri VII o Loegr.